Lama o Wynedd yn gosod record byd am y naid uchaf

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae'r lama yn anifail sydd dod yn wreiddiol o Dde America

Bydd lama o Wynedd yn cael ei gofnodi yn swyddogol yn y llyfr Recordiau Byd Guinness diweddaraf ddydd Iau.

Fe lwyddodd Caspa i neidio dros bolyn 1.13 metr (3 troedfedd 8.5 modfedd) o uchder er mwyn hawlio'r record.

Mae'n un o nifer o lamaod sydd yn byw yn y ganolfan ym Morfa Bychan, Porthmadog, ac sydd yn ran o dîm arddangos eu perchennog, Sue Williams.

"Pan mae pobl yn gweld pa mor uchel mae Caspa yn neidio maen nhw wedi'u synnu, d'yn nhw jyst ddim yn disgwyl i lama allu neidio mor uchel â hynny," meddai Sue Williams.

"A'r ffaith ei fod wrth ei fodd yn gwneud, mae o'n gwneud i bawb wenu.

Image caption Mae'r lama yn anifail sydd dod yn wreiddiol o Dde America

"Pan dw i'n meddwl nôl i pryd ges i Caspa i ddechrau efo hi, doedd o wir ddim yn licio pobl, roedd o'n her fawr i mi. Gyda'n gilydd rydyn ni wedi creu perthynas dda, dw i wedi dysgu cymaint, a phan dw i'n ei weld o wrthi a pha mor hapus ydi o dwi jyst yn fam mor falch!"

Llwyddodd Caspa i dorri'r record ym mis Mehefin llynedd mewn sioe gŵn yn Sir Gaer.

Mae'r recordiau eraill fydd yn cael eu cofnodi'n swyddogol yn llyfr Recordiau Byd Guinness 2017 yn cynnwys y gath ddomestig hiraf erioed, record cyflymder am feic un olwyn, a'r 50m cyflymaf wrth gerdded ar ddwylo gan ddal pêl-droed rhwng y coesau.

Image caption Caspa gyda'i berchennog Sue Williams