Cyhoeddi enw dynes fu farw mewn damwain ym Mwlch yr Oernant

Cassie Dulson Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn damwain car ym Mwlch yr Oernant, Sir Ddinbych.

Bu farw Cassandra Jayne Dulson ar ôl i'w char ddisgyn 75 metr (250 troedfedd) oddi ar ddibyn ar 5 Medi.

Digwyddodd y ddamwain rhwng ffordd y B5103 yn Llangollen a'r A5104 yn Llandegla.

Dywedodd ei theulu bod Cassie, fel yr oedd hi'n cael ei hadnabod, yn annwyl iawn iddyn nhw ac y byddai pawb oedd yn ei hadnabod yn gweld colled ar ei hôl.

Roedd hi'n 24 oed ac yn dod o ardal Rhiwabon, Wrecsam.

Mae'r heddlu yn dal i apelio am unrhyw dystion i gysylltu â nhw.