Gatland i'r Llewod - Howley i Gymru

Warren Gatland Image copyright Rex Features

Mae hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi ei gadarnhau fel hyfforddwr Llewod Prydain ac Iwerddon ar gyfer y daith i Seland Newydd yn 2017.

Dyma fydd yr ail dro i Gatland reoli'r Llewod, ar ôl arwain y tîm i fuddugoliaeth dros Awstralia yn 2013.

Roedd hefyd yn rhan o'r tim hyffroddi yn 2009 pan gollodd y Llewod o 2-1 yn Ne Affrica.

Bydd y gŵr o Seland Newydd yn gadael ei rôl gyda Chymru, ac fel ddigwyddodd yn ystod taith ddiwethaf y Llewod, fe fydd Rob Howley yn cymryd yr awenau dros dro.

Dywedodd Gatland ei fod yn "fraint anferth" a'i fod yn anodd gwrthod y "swydd fwyaf yn y byd rygbi yn erbyn y gwrthwynebwyr gorau yn y byd rygbi".

'Dim her fwy'

Nid yw'r Llewod wedi ennill cyfres yn erbyn Seland Newydd ers 1971.

Bydd y tîm yn chwarae 10 gêm ar y daith, sy'n cynnwys tair gêm brawf yn erbyn y Crysau Duon.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y Llewod yn fuddugol yn y gyfres yn erbyn Awstralia yn 2013

Dywedodd Gatland: "Mae'n enfawr, ar ôl y profiad o chwarae yn erbyn y Llewod dwi'n gwybod beth mae'n ei olygu i chwaraewr i wynebu'r Llewod, felly mae mynd i Seland Newydd i arwain y tîm yn erbyn pencampwyr y byd ar eu tir eu hunain, does dim her fwy.

"Mae'n rhaid i ni fynd yno a chredu y gallwn ni greu tîm all fod yn llwyddiannus."

Dywedodd Gatland nad oedd wedi penderfynu ar ei dîm hyfforddi hyd yma, ond ychwanegodd ei fod yn "bwysig i gael wynebau a syniadau newydd".

Dywedodd y byddai'n cyhoeddi ei dîm hyfforddi ar 7 Rhagfyr.

Image caption Fe fydd Howley yn cymryd drosodd fel prif hyfforddwr Cymru dros dro