614 o alwadau yn ymwneud â hunanladdiad i Childline

Childline Image copyright Thinkstock

Fe gafodd Childline dros 600 o alwadau yn ymwneud â hunanladdiad yng Nghymru y llynedd, medd adroddiad blynyddol y gwasanaeth.

Cafodd cyfanswm o 614 o alwadau a chyswllt ar-lein eu gwneud gan blant yng Nghymru - tua 12 yr wythnos ar gyfartaledd.

Trwy Brydain, fe ddeliodd gwasanaeth elusen yr NSPCC gyda mwy o sesiynau nag erioed, gyda 53 o sesiynau cynghori ar hunanladdiad yn cael eu cynnal bod diwrnod yn 2015/16.

Fe gysylltodd 19,481 o bobl ifanc oedd yn meddwl am ddod â'u bywydau i ben gyda'r llinell - dros ddwywaith y nifer bum mlynedd yn ôl.

Mwy o ferched

Mae'r ffigyrau'n dangos fod merched yn fwy tebygol o gysylltu â Childline i drafod eu teimladau na bechgyn, ac roedd y rhai mwya bregus rhwng 12 a 15 oed.

Yn ôl adroddiad blynyddol y gwasanaeth, roedd plant yn fwy tebygol o deimlo'n isel yn ystod misoedd y gaeaf, gyda thraean yn ffonio swyddogion Childline yn y nos.

Trafferthion yn y cartref, camdriniaeth, pwysau o'r ysgol a chyflyrau iechyd meddwl oedd rhai o brif resymau plant a phobl ifanc dros feddwl am ddod â'u bywydau i ben, gyda phlant mor ifanc a 10 oed yn dweud wrth gynghorwyr pa mor anhapus oedden nhw.


Cysylltodd un bachgen 16 oed gyda chanolfan ar-lein Caerdydd gan ddweud: "Dwi'n cael cymaint o broblemau yn yr ysgol a'r cartref.

"Dwi jyst yn deimlo fel lladd fy hun, beth yw'r pwynt cario mlaen?"

Dywedodd merch 14 oed wrth gwnselydd ym Mhrestatyn: "Dwi'n teimlo mor isel a dwi ddim yn gweld pwynt byw rhagor.

"Dwi'n cael fy mwlio a does gen i neb y galla i siarad â nhw am fy nheimladau.

"Dydy pethau ddim yn hawdd gartref chwaith achos dydw i ddim yn teimlo bod fy rhieni yn fy neall i, felly alla i ddim siarad â nhw am fy nheimladau.

"Dwi eisiau dod â'r cyfan i ben, ond dwi ddim yn gwybod a ydw i'n ddigon dewr i'w wneud e?"


Roedd yna gynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc a siaradodd am eu hiechyd meddwl, gyda thraean y sesiynau cynghori yn canolbwyntio ar y pwnc. Mae yna dystiolaeth gref bod camdriniaeth yn gallu arwain at broblemau iechyd meddwl.

Dangosodd arolwg diweddar gan yr NSPCC fod tua 60% o bobl sy'n gweithio gyda phlant yng Nghymru sydd wedi cael eu cam-drin yn dweud fod hi'n mynd yn anoddach i blant gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw oherwydd yr amodau caeth sy'n rhaid cwrdd a nhw cyn y gellid derbyn triniaeth drwy wasanaeth iechyd meddwl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Yn yr un arolwg, dywedodd gweithwyr fod cleifion yn gorfod aros bum mis ar gyfartaledd cyn cael mynediad i Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (neu CAMHS)

Mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cefnogaeth i blant sydd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso.

Image copyright Childline/PA

Dywedodd pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion: "Rhaid i ni ddeall pam mae cymaint o blant yn mynd i deimlo emosiynau mor eithafol.

"Yn amlwg mae llawer yn teimlo'n ddiwerth ac unig ac mae'n rhaid i ni gyd eu helpu er mwyn gwneud iddyn nhw deimlo bod bywyd yn werth ei fyw eto.

"Dyw hi ddim yn dderbyniol fod cymaint yn delio â phroblemau iechyd meddwl ac yn teimlo nad oes cefnogaeth iddyn nhw.

"Rhaid i ni wrando arnyn nhw a deall beth sydd yn eu poeni nhw er mwyn eu helpu i ddatrys eu problemau."