Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio Janet Commins

Stephen Hough Image copyright Andrew Price
Image caption Stephen Hough (dde) yn cael ei arwain i'r llys

Mae dyn 57 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo, wedi'i gyhuddo o lofruddio merch 15 oed o Fflint 40 mlynedd yn ôl.

Mae Stephen Hough, o'r Fflint, wedi'i gyhuddo o ymosodiad rhyw, treisio a llofruddio Janet Commins.

Cafodd corff Ms Commins ei ddarganfod ar gae ysgol yn Y Fflint ym mis Ionawr 1976.

Mae Mr Hough hefyd yn wynebu cyhuddiadau o dreisio a chyffwrdd mewn modd rhywiol yn ymwneud a digwyddiad honedig ym mis Chwefror eleni.

Fe siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig, a bydd yr achos yn cael ei adolygu ym mis Rhagfyr.

Image copyright North Wales Police
Image caption Roedd Janet Commins wedi diflannu ar ôl ymweld â chanolfan hamdden