Galw am fwy o farnwyr Cymraeg eu hiaith

Llys

Mae bargyfreithiwr sydd yn gweithio yng Nghaerdydd wedi dweud bod angen mwy o farnwyr sydd yn medru siarad Cymraeg.

Fe bwysleisiodd David Hughes, sydd yn fargyfreithiwr gyda Siambrau 30 Park Place, fod Cymraeg yn iaith â statws swyddogol, ac felly bod hawl ei defnyddio yn y llys.

Ac mae'n bwysig, meddai, deall bod gan awdurdod cyfreithiol Cymru a Lloegr bellach ddau ddeddfwrfa, un yn San Steffan a'r llall ym Mae Caerdydd.

"Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig. Mae nifer o fy nghydweithwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl sydd yn gallu ac yn ymdrin ag achosion drwy'r Gymraeg," meddai mewn erthygl i gylchgrawn cyfreithiol Counsel.

"Mae angen amlwg am farnwyr sydd yn siarad Cymraeg, ac mae academyddion yn taclo'r angen am dermau cyfreithiol yn y Gymraeg."

Dywedodd fod teimlad ymysg rhai "bod Lloegr weithiau yn delio ag arwahanrwydd [y gyfrundrefn gyfreithiol] yng Nghymru drwy gydnabod yr iaith yn unig".

Mewn cyfnod o ddatganoli, meddai, does dim modd anwybyddu'r gwahaniaethau cyfreithiol sydd bellach yn bodoli mewn rhai meysydd.

Ychwanegodd bod nifer o'r gymuned gyfreithiol yng Nghymru o'r farn y dylid sefydlu awdurdod cyfreithiol ar wahân i Gymru, gan gydnabod fodd bynnag nad oedd y farn yn "unfrydol" ar y mater.