Team Sky yn ymddiheuro ar ôl bron â tharo seiclwr

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cafodd y fideo ei ffilmio o gamera ar helmed Andy Rolfe

Mae tîm seiclo Team Sky wedi ymddiheuro ar ôl i un o'u bysiau bron â tharo dyn oddi ar ei feic yn Sir Ddinbych.

Mae fideo gafodd ei ffilmio o gamera ar helmed Andy Rolfe yn dangos y bws yn agos iawn ato wrth iddo basio heibio.

Mae Team Sky wedi bod yng Nghymru ddydd Mercher a dydd Iau wrth i'w seiclwyr gymryd rhan yn y Tour of Britain.

"Mae'r hyn sydd i'w weld yn y fideo yn annerbyniol ac rydyn ni'n ymddiheuro," meddai'r tîm ar wefan Twitter.

"Rydyn ni eisoes wedi siarad â'r gyrrwr ac fe fyddwn ni'n trafod hyn gydag ef eto mewn mwy o fanylder."