Morgannwg yn colli o 10 wiced i Sir Gaerloyw

Will Bragg
Image caption Bragg fatiodd orau i Forgannwg mewn perfformiad wael yn yr ail fatiad

Mae Morgannwg wedi colli i Sir Gaerloyw o 10 wiced yn eu gêm gartref olaf o'r tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Yng Nghaerdydd, Will Bragg, 52, oedd y prif sgoriwr i Forgannwg wrth i'r dim cartref gyrraedd 232 ar ddiwedd eu hail fatiad, a gosod targed o ond 90 i'r ymwelwyr i ennill y gêm.

David Payne oedd y gorau o fowlwyr Sir Gaerloyw gan gymryd 4-45.

Llwyddodd Sir Gaerloyw i gyrraedd y targed o fewn 20 pelawd a heb golli wiced, drwy Gareth Roderick, 56 heb fod allan, a Chris Dent, 35 heb fod allan.