Carwyn Jones: 'Angen newid radical i gyfansoddiad y DU'

Carwyn Jones

Mae'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod angen "newidiadau radical" i gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, meddai Carwyn Jones.

Mewn araith yn yr Unol Daleithiau ddydd Gwener, mae disgwyl i'r prif weinidog ddweud nad oes dim byd, gan gynnwys chwalu'r Deyrnas Unedig, yn amhosib os na fydd newidiadau cyfansoddiadol yn cael eu cymryd o ddifri.

Wrth annerch cynulleidfa yng nghyfarfod y Chicago Council on Global Affairs, bydd Mr Jones yn traddodi araith fyd yn edrych ar berthynas Cymru gydag Ewrop a gweddill y DU.

Bydd y prif weinidog yn dweud: "Does dim modd dychwelyd i'r hen gyfansoddiad traddodiadol, pan oedd y Deyrnas Unedig yn un o'r gwladwriaethau oedd wedi canoli fwyaf yn y byd datblygedig.

"Rhaid i ni wynebu'r realiti newydd drwy feddwl mewn ffordd newydd yn gyfansoddiadol os yw'n hundeb Prydeinig i oroesi'r tensiynau newydd sy'n cael eu creu drwy adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Os na fyddwn yn cymryd hyn o ddifri, does dim byd - hyd yn oed chwalu'r Deyrnas Unedig - yn amhosibl. Gadewch i mi bwysleisio; dydw i ddim am weld hynny'n digwydd. Dim o gwbl.

"Ond gallai sefyllfaoedd a oedd yn ymddangos yn ddim mwy na dychymyg gwleidyddol rhai blynyddoedd yn ôl gael eu gwireddu os na fyddwn yn gwneud y newidiadau radical sy'n angenrheidiol i osod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig ar sylfaen gynaliadwy."

Marchnad Sengl

Bydd Mr Jones yn hefyd yn dweud na fydd Cymru'n cytuno i unrhyw gytundeb Brexit oni bai bod y DU yn llwyddo i sicrhau mynediad at y farchnad sengl.

Fe fydd yn dadlau "ein bod mewn perygl o achosi niwed economaidd diangen i'n gwlad a'n pobl" os na all Gymru warantu hynny.

Bydd yn dweud: "Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol, pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, i'r Deyrnas Unedig gadw mynediad at y farchnad sengl.

"Os na allwn warantu hynny, byddwn mewn perygl o achosi niwed economaidd diangen i'n gwlad a'n pobl.

"Rydyn ni am weld amgylchedd busnes ffyniannus a darparu gwasanaethau cyhoeddus cadarn, wedi'u hariannu drwy drethi teg.

"Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw: yr unig ffordd o dalu am y gwasanaethau hynny yw cael economi lewyrchus. Rydyn ni'n gynhwysol. Rydyn ni'n genedl sy'n edrych allan ar y byd. Rwy'n credu bod Cymru ar ei gorau pan mae'n masnachu a chydweithio gyda gweddill y byd.

"Sicrhau lle Cymru ym marchnad sengl Ewrop, diwygio'r Deyrnas Unedig i fod yn undeb fwy ffederal o bedair cenedl sofran, ac adeiladu cysylltiadau cryfach gyda'r Unol Daleithiau, ein cyfaill a chydymaith hynaf - dyna fy nodau ar gyfer Cymru".

Fe fydd hefyd yn dweud fod dyletswydd ar yr ymgyrchwyr oedd o blaid gadael yr UE, ac sydd bellach mewn swyddi dylanwadol yn San Steffan, i gadw at eu haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol yn dilyn y bleidlais.

Trafodaethau

Mae disgwyl iddo ddadlau hefyd am yr angen i lywodraethau datganoledig chwarae eu rhan yn llawn yn y drafodaeth am ddyfodol y DU.

"Does gen i ddim bwriad o gwbl caniatáu i dynged Cymru gael ei gadael i ffawd, ac eistedd yn ôl a gwylio'r hyn sy'n digwydd yn dilyn y penderfyniad enfawr yma.

"Rhaid i Gymru a'r gwledydd datganoledig eraill chwarae rhan lawn a gweithredol yn y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn diogelu'n buddiannau yn llawn.

"Os bydd hyn yn troi'n ddeialog dwy ffordd rhwng Brwsel a Llundain, bydd yn methu.

"Rhaid i Gaerdydd, Caeredin a Belfast gael seddi wrth y bwrdd. Beth bynnag yw'r cytundeb yn y pen draw, cyn ei dderbyn rhaid sicrhau cefnogaeth y pedair Senedd sydd bellach yn deddfu ar gyfer y Deyrnas Unedig."