Cystadleuaeth deifio clogwyn ar daith yn Sir Benfro

Deifio clogwyn Image copyright Getty Images

Bydd taith Cyfres Deifio Clogwyn y Byd yn ymweld â Sir Benfro y penwythnos yma, ac mae disgwyl miloedd o gefnogwyr i heidio yno i wylio.

Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn hen chwarel lechi sydd wedi'i lenwi â dŵr yn Abereiddi.

Bydd y 22 o gystadleuwyr yn cymryd tair eiliad i ddeifio o blatfform 27.5 medr i'r dŵr islaw.

Bu'n rhaid canslo sesiwn ymarfer i'r cystadleuwyr ddydd Gwener oherwydd gwyntoedd cryfion ger yr arfordir.

Image copyright Getty Images

Dyma fydd y trydydd gwaith i'r gyfres ymweld â Sir Benfro, gyda deifwyr gorau'r byd eisoes wedi bod yno yn 2012 a 2013.

Cymru yw'r chweched lleoliad ar daith y gyfres, a bydd yn ymweld â Bosnia a Herzegovina a Japan cyn gorffen yn Yr Emiradau Arabaidd Unedig ar 28 Hydref.