Rygbi Cymru: Datgelu chwaraewyr 'Rheol Gatland'

George North, Jamie Roberts, Taulupe Faletau
Image caption Mae George North, Jamie Roberts a Taulupe Faletau yn cael eu heffeithio gan y rheol

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi datgelu pa chwaraewyr fydd yn cael eu heffeithio gan Reol Gatland, gyda Taulupe Faletau a George North ar y rhestr.

Mae polisi'r undeb yn golygu mai dim ond tri chwaraewr sy'n cynrychioli clybiau o'r tu allan i Gymru sy'n gallu cael eu dewis ar gyfer pob carfan.

Y chwaraewyr sy'n cael eu heffeithio gan y rheol y tymor yma yw Faletau, North, Jamie Roberts, Rhys Priestland, Dominic Day, Nicky Thomas a Rhodri Williams.

Mae eithriadau i'r rheol, sy'n golygu bod rhai chwaraewyr sydd ddim yn chwarae yng Nghymru - fel Luke Charteris a Leigh Halfpenny - ddim yn cael eu heffeithio.

Nod y polisi ydi sicrhau bod mwy o chwaraewyr yn chwarae eu rygbi yng Nghymru trwy'r flwyddyn.

Er bod y rheol wedi'i henwi ar ei ôl, nid problem Warren Gatland fydd hon am o leiaf blwyddyn, wrth i Robert Howley gymryd yr awenau tra bo Gatland yn canolbwyntio ar reoli'r Llewod.