Dysgu mewn ffordd wahanol

Gwennan Mair Image copyright Iolo Penri

Mae dyslecsia yn cael ei ddiffinio fel anhawster dysgu sy'n achosi problemau gyda darllen ac ysgrifennu.

Mae Gwennan Mair, un o gyflwynwyr gwasanaeth newydd Radio Cymru Mwy, wedi bod yn siarad efo Cymru Fyw am y ffordd mae hi wedi ymdopi gyda'r cyflwr.

Er bod Gwennan yn cyfaddef nad ydi hi erioed wedi darllen llyfr cyfan, dydy Gwennan ddim yn gweld dyslecsia fel rhywbeth negyddol ond fel rhywbeth sydd wedi ei gwneud yn berson mwy creadigol. Bu'n sôn mwy am y cyflwr wrth Cymru Fyw:


"Mynd yn blanc..."

O'n i yn yr ysgol gynradd pan gafodd ei fflagio fyny gynta' ond doedd Mam a Dad ddim isio neud rhywbeth mawr o'r peth ar y pryd achos o'n i ddim yn stryglo mewn gwirionedd.

Ond os o'n i'n gorfod darllen rhywbeth ro'n i'n troi'n llwyd ac yn mynd yn blanc. Roedd lot o athrawon yn meddwl mod i'n ddiog achos yn bob dim arall, hyd yn oed maths a gwyddoniaeth, ro'n i ar ben y dosbarth.

Ond dim tan ro'n i ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, y ces i ddiagnosis.

Dwi'n cofio'r munud ges i w'bod bod gen i enw iddo fo bod yna bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau, ro'n i'n sylweddoli, ocê, 'dio ddim bo fi'n thic, 'dio ddim bo fi'n ddiog.

Mae gen i dyslecsia eitha' difrifol, ond ro'n i'n dal yn y set gyntaf yn yr ysgol, ro'n i'n brif ferch, ro'n i yn y tîm hoci. Ond tasa Mam a Dad ddim wedi sylwi bod 'na rywbeth yn digwydd pan o'n i'n darllen neu'n trio sillafu faswn i ddim 'di llwyddo.

Image caption Roedd Gwennan yn aelod o brosiect Theatr Unnos Cwmni'r Frân Wen yn ddiweddar

Amynedd

Roedd yr athrawon yn anhygoel efo fi. Roedd gynnyn nhw amynedd ac yn dallt nad oedd o ddim i'w wneud efo pa mor glyfar o'n i neu'r ffordd ro'n i'n ymateb i bethau, jyst fy mod yn cymryd dwbl yr amser roedd pawb arall.

Roedd gen i athrawes Gymraeg, Gwen Edwards, wnaeth ddim fy nhrin i'n wahanol o gwbl heblaw am orfod mynd i mewn weithiau amser egwyl i wneud ryw chwarter awr o ddarllen dwys.

O'n i'n cymryd lot hirach i ddarllen llyfr na phobl eraill. Dwi ddim yn gwybod os mai clyfar 'di'r gair, 'ta diog, ond dwi erioed wedi darllen llyfr cyfan fy hun, er mod i 'di gwneud gradd! Mae o'n rhyw fath o ffobia od - mae llyfrau'n cynrychioli panic a stress.

Ges i tua blwyddyn o help dwys ychwanegol yn yr ysgol ac o'n i'n cael 10% o amser arholiad yn ychwanegol.

Mi wnes i wneud 14 pwnc TGAU a mynd ymlaen i astudio Cymraeg, Cerdd a Drama yn Lefel A gan gael tair B.

Wedyn es i ymlaen i astudio Drama Cymunedol yn LIPA yn Lerpwl (Liverpool Institute for Performing Arts) ac ennill gradd yno.

Fel arfer be' dwi'n weld ydi pwyslais rhyfedd ar rai geiriau neu lythrennau, lle mae'r inc yn gryfach. Mae'n gallu edrych yn 3D ac fel petai'n dawnsio.

Os dwi'n edrych ar ffont cyfrifiadur mae'r bylchau rhwng llythrennau yn symud ac yn neidio.

Mae papur efo llinellau yn achosi problem ac mae fy nodiadau i gyd yn hollol lliwgar. Mae lliw yn gwneud gwahaniaeth achos nid ydi'r contrast mor gryf - mae du ar wyn yn anoddach i mi ei ddarllen.

Maen nhw wedi gwneud lot o waith ymchwil ar ddefnyddio papur lliw yn lle gwyn neu roi sgrin clir dros bapur felly mae sgrin fy nghyfrifiadur i yn las achos fod y contrast ddim mor gryf.

Image caption Dydy trefn llythrennau ddim yn hawdd i un o bob deg o bobl sydd â dyslecsia

Canu cerddi a 'mind maps'

Yn yr ysgol nes i ddysgu fy ngherddi Cymraeg i gyd drwy eu canu nhw. Ro'n i'n recordio fy hun a gwrando ar y traciau ac roedd gen i nodiadau 'Post-it' ar hyd y sinc yn nhŷ Mam a Dad, bechod!

Dwi hefyd yn defnyddio mind maps; dwi'n defnyddio lot o saethau, lluniau bach, bybls rownd paragraffau pwysig. Gen i ffordd o weld be' sy'n bwysig ar bapur - dwi'n ei wneud o'n hwyl i fi fy hun achos fod geiriau'n anodd i fi.

Yn yr ysgol, ro'n i'n gwybod fy mod yn gorfod cychwyn traethawd wythnos cyn pawb arall ac ro'n i'n ei anfon 'mlaen at Mam a Dad, a ffrindiau hefyd, i'w checio.

Yn y coleg wedyn roedd gen i diwtor oedd yn mynd drwy ngwaith i gyd o ran sillafu. Doedden nhw ddim yn cael newid dim byd o'r cynnwys ond yn checio'r sillafu i gyd i fi.

Ers o'n i'n fach dwi jyst 'di ymdopi, 'di o ddim 'di bod yn issue. Dwi ddim yn ei weld o yn rhywbeth negyddol. Ddim o gwbl.

Image caption Mi gafodd y gwyddonydd Albert Einstein ddylanwad mawr ar gwrs y byd, er fod ganddo ddyslecsia

Un mewn 10

Mae gan un mewn 10 person ddyslecsia. Ond yn ein coleg ni, roedd y ffigwr yn un mewn pedwar achos mai pobl greadigol oedd yn y coleg - mae hynny'n d'eud lot dwi'n meddwl.

Dwi'n meddwl eich bod chi'n gorfod bod yn fwy creadigol i ymdopi. 'Dach chi ddim yn gweld pethau yn anghywir, nid nam golwg ydi o, na nam clyw, ond y cyfathrebu rhwng dy ymennydd a'r synhwyrau hynny.

Yr unig beth ma'n olygu ydi eich bod chi'n meddwl ac yn dysgu mewn ffordd hollol wahanol. Ond nid eich bai chi ydi hynny ond bai'r system addysg.

Mae'r system yn dweud mewn ffordd "dydyn ni ddim yn gallu darparu ar gyfer y ffordd ti'n meddwl, so 'dan ni jyst yn mynd i ddeud, dyma ydi dy gyflwr di, a rhaid i ti ffitio mewn i ddysgu fel parot", er bod hynny ddim yn gweithio i ti.

Mae pawb yn meddwl mewn ffordd wahanol ac mae rhoi rhywbeth mewn bocs yn gallu bod yn beryg achos taswn i heb gael y gefnogaeth ges i gan Mam a Dad, faswn i 'di gallu troi i fod yn 'hogan ddrwg' achos mod i ddim yn dysgu yn y ffordd 'arferol'.

Rhaid cael cefnogaeth - dwi ddim yn anfon pethau at Mam a Dad rŵan ond at ffrindiau, maen nhw i gyd yn dallt, ma' nhw'n ffab.

Mae'r system addysg yn rhoi pobl mewn bocsys ac mae hynny mor hen ffasiwn rŵan.

Doedd dysgu trwy ddarllen a 'sgrifennu gwybodaeth ddim yn gweithio i fi. Ond mi wnaeth gwybod hynny roi'r hyder i fi feddwl, dwi'n ocê, dwi jyst angen ffeindio fy ffordd i o wneud pethau.

Bydd Gwennan Mair yn darlledu ar Radio Cymru Mwy am 10:00, Dydd Mercher 21 Medi