Miloedd yn cystadlu yn ras 10km Caerdydd ddydd Sul

Rhedeg Image copyright Getty Images

Bydd miloedd o redwyr yn rasio drwy ganol y brifddinas ddydd Sul wrth i ras 10km Caerdydd gael ei chynnal.

Mae'r trefnwyr, Sefydliad Aren Cymru, wedi dweud bod y nifer uchaf erioed wedi cofrestru, ac mae disgwyl dros 5,000 o redwyr i gymryd rhan.

Bydd y ras yn dechrau am 10:00 ar Heol yr Amgueddfa yng nghanol y ddinas, a bydd rhedwyr yn teithio drwy Barc Biwt, gerddi'r castell a chaeau Llandaf cyn dychwelyd i ganol y ddinas.

Yn ogystal â'r brif ras, bydd ras hwyl 2km hefyd yn digwydd, gan ddechrau am 09:15.