Disgwyl i ferch ddychwelyd o Saudi Arabia ddydd Sul

Amina Al-Jeffery Image copyright Press Association

Mae'n rhaid i ferch o Abertawe sy'n honni bod ei thad yn ei chadw'n garcharor yn Saudi Arabia gael ei gadael i ddychwelyd i Brydain erbyn ddydd Sul.

Cafodd Amina Al-Jeffery, 21 oed, ei chymryd i Jeddah gan ei thad, Mohammed, yn 2012 oedd yn dweud iddo wneud hynny i "achub ei bywyd".

Fe wadodd Mr Al-Jeffery yr honiadau yn yr Uchel Lys yn Llundain fis diwethaf.

Ond dywedodd Mr Ustus Holman ei bod wedi ei "hamddifadu o'i rhyddid" ac y byddai'n rhaid i'w thad ei dychwelyd i Brydain.

Roedd Ms Al-Jeffery yn honni i'w thad ei chymryd i Saudi Arabia wedi iddi "gusanu dyn".

Image copyright John Allan/Geograph
Image caption Roedd yr achos yn cael ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain

Roedd Mr Al-Jeffery yn gwadu bod ei ferch eisiau dychwelyd i Brydain, gan ddweud ei fod eisiau sicrhau ei bod yn ddiogel.

Yn ei ddyfarniad, dywedodd Mr Ustus Holman pe bai Ms Al-Jeffery wedi ceisio cael help yr heddlu yn Jeddah: "I'r gwrthwyneb o gynnig ei hamddiffyn oddi wrth ei thad, bydden nhw'n ei rhoi yn y carchar".

"Os ydi Amina yn dewis aros yn Saudi Arabia o'i gwirfodd ei hun bydd hi, wrth gwrs, yn gorfod cydymffurfio â chyfraith a diwylliant y gymdeithas honno," meddai.

"Ond mae'r cyfyngiadau presennol yn ei hatal rhag gallu bod yn Brydeinig a byw ym Mhrydain."

Dywedodd Mr Ustus Holman y dylai Ms Al-Jeffery gael y cyfle i ddychwelyd i Brydain erbyn 11 Medi, ac y byddai'n asesu'r achos eto ddeuddydd yn ddiweddarach.