Tocynnau gêm Awstria: Rhybudd i gefnogwyr pêl-droed Cymru

cymru Image copyright Getty Images

Fe allai cefnogwyr pêl-droed Cymru sy'n cael eu dal yn gwerthu tocynnau blaenoriaeth ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn Awstria, golli eu haelodaeth o'r gymdeithas bêl-droed, yn ôl rhybudd gan grŵp cefnogwyr.

Aeth rhai o'r 2,776 o docynnau ar gyfer y gêm ar werth drwy gynllun teyrngarwch ddydd Gwener.

Dywedodd Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru y byddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn atal unrhyw un sy'n cael eu dal yn gwerthu'r tocynnau ymlaen.

Dywedodd y gymdeithas bêl-droed eu bod yn monitro cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd llefarydd ar ran FCP Cymru: "Os ydynt yn cael eu dal, bydd y gymdeithas bêl-droed yn diddymu eu haelodaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru na allai gadarnhau y byddai aelodaeth yn cael ei atal, ond eu bod yn dychmygu y byddai hynny'n digwydd.

Cyfryngau cymdeithasol

Dywedodd fod y gymdeithas yn monitro'r cyfryngau cymdeithasol, felly os bydd rhai yn cael eu trosglwyddo, yna bydd "camau'n cael eu cymryd".

Bydd Cymru'n chwarae Awstria yn Stadiwm Ernst Happel, yn Vienna, ar 6 Hydref.

Dim ond aelodau sydd wedi bod i o leiaf dwy o'r saith gêm ragbrofol oddi cartref diwethaf - heb gynnwys rowndiau terfynol Euro 2016 - sy'n gymwys i brynu tocynnau yn ystod cam un.

Fe fydd cam dau, i aelodau sydd wedi bod i un gêm oddi cartref yn ystod y cyfnod hwn, yn agor ar 15 Medi.

Bydd y trydydd cam o werthu ar gyfer unrhyw docynnau sy'n weddill yn agor ar 21 Medi.