Norwich 3-2 Caerdydd

Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Anthony Pilkington ddwy gôl i Gaerdydd

Norwich 3-2 Caerdydd

Mae Norwich City wedi symud o fewn pwynt i'r safleoedd dyrchafiad yn y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth dros CPD Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.

Fe sgoriodd Cameron Jerome i'r tîm cartref, ac fe rwydodd Russell Martin y bêl gyda'i ben o gic gornel, gan roi'r Caneris ddwy gôl ar y blaen.

Rhoddodd gôl hwyr gan Anthony Pilkington fymryn o obaith i Gaerdydd, ond fe darodd Josh Murphy yn ôl i Norwich.

Nid oedd Caerdydd am roi'r gorau iddi, wrth i Pilkington sgorio eto yn ystod yr amser ychwanegol, ond er gwaethaf ymdrechion yr Adar Gleision, maent yn disgyn i safle 19, a dim ond un pwynt uwchlaw'r safleoedd gwaelod.