Casnewydd 2-2 Cheltenham

Image copyright Huw Evans picture agency

Casnewydd 2-2 Cheltenham

Fe darodd Jon Parkin yn ôl ddwywaith i sicrhau gêm gyfartal i Gasnewydd wrth iddynt frwydro yn erbyn Cheltenham ddydd Sadwrn.

Asa Hall oedd a'r gôl gyntaf y gêm, gydag ergyd o du allan i'r bocs, gan fanteisio ar amddiffyn blêr y tîm cartref.

Yna, fe lwyddodd Parkin i unioni'r sgôr gydag ergyd agos, ond yn fuan wedyn fe roddodd Daniel Wright yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen gyda chic o'r smotyn ar ôl i Paul Bignot droseddu yn erbyn Harry Pell.

Ond fe darodd Parkin yn ôl eto cyn yr egwyl gan sicrhau gêm gyfartal i'r Alltudion.