Wrecsam 1-0 Sutton United

Image copyright Rex Features

Wrecsam 1-0 Sutton United

Fe sicrhaodd gôl yn yr ail hanner gan Sean Newton, fod Wrecsam yn ymestyn eu rhediad llwyddiannus o dair gêm o'r bron, wedi buddugoliaeth dros Sutton United ddydd Sadwrn.

Sutton oedd yn rheoli yn yr hanner cyntaf, gyda Shwan Jalal yn atal ymdrechion Craig Eastmond, ac fe ddaeth Chris Dickson yn agos iawn at sgorio wrth i'r bêl daro'r trawst.

Nid oedd Wrecsam ar eu gorau brynhawn Sadwrn, ond fe ddaeth gôl o rywle gan y capten, Sean Newton, gan sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae ochr Gary Mills yn codi i'r 11eg safle yn y tabl, gyda Sutton yn disgyn i'r 15fed safle.