Cyflwyno mesur trethu tir yn y Cynulliad

cynulliad

Mae'r ail o dri Mesur Cynulliad sy'n paratoi'r ffordd i Gymru godi ei threthi ei hun wedi cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Bydd y ddeddfwriaeth yn sefydlu treth trafodiadau tir, a fydd yn disodli'r dreth stamp o fis Ebrill 2018.

Dyma fydd y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd i Gymru gael pwerau codi trethi.

Mae disgwyl i weinidogion Cymreig osod cyfradd y dreth, a fydd yn codi tua £250m, yn nhymor yr hydref 2017.

Fe fydd deddfwriaeth ar gyfer y dreth tirlenwi, a gaiff ei datganoli ar yr un adeg, yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y ddeddfwriaeth, ynghyd â mesurau i atal osgoi trethi yn anfon neges glir bod rhaid talu trethi datganoledig.

Yr Awdurdod Refeniw Cymreig fydd yn gyfrifol am gasglu'r arian.

Y mesur hiraf

Yn ôl swyddogion, y mesur 220 tudalen yw'r darn hiraf o ddeddfwriaeth y mae gweinidogion Cymreig erioed wedi ei gyhoeddi.

Wedi i'r aelodau Cynulliad graffu ar y mesur, mae disgwyl iddo gael sêl bendith y Frenhines erbyn gwanwyn 2017.

Fe gafodd y ddeddfwriaeth i ganiatáu casglu a rheoli'r trethu ei gymeradwyo yn y Cynulliad ym mis Mawrth.

Mae ysgolheigion wedi rhybuddio fod yn rhaid i'r arian gaiff ei godi gan y trethi Cymreig gyfateb i'r toriadau yn y grant presennol neu bydd prinder arian yn y gyllideb.

Ar hyn o bryd mae gweinidogion Cymreig yn derbyn £15 biliwn y flwyddyn gan drysorlys y DU.

Mae disgwyl i'r trafodaethau ynghylch y gostyngiad i'r swm yma gychwyn yn ystod tymor yr hydref.

Mae posibilrwydd hefyd y bydd pwerau treth incwm yn cael eu datganoli, ond mae llywodraethau Cymru a'r DU eto i gytuno ar amserlen.

Y 'dreth stamp' newydd

Dadansoddiad James Williams, Gohebydd Seneddol BBC Cymru:

Wrth lansio'r ddeddfwriaeth fydd yn arwain at fersiwn Cymreig o'r hyn rydyn ni'n adnabod fel y 'dreth stamp' dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei fod am weld "trawsnewidiad llyfn".

O ganlyniad, dydyn ni ddim yn disgwyl fawr o newid i'r drefn bresennol - os o gwbl - pan fydd y dreth newydd yn cael ei chasglu yng Nghymru yn 2018.

I'r gwrthwyneb, fe benderfynodd gweinidogion yr SNP y llynedd gyflwyno newidiadau sylweddol i'r cyfraddau - mae'r trothwy ar gyfer prynu'r tai rhataf yn uwch tra bod rheiny sy'n prynu tai costus yn talu llawer yn fwy.

Ond nid yw Mr Drakeford yn diystyru gwneud y fath newidiadau i'r 'dreth stamp' Gymreig gydag amser.

Mewn gwirionedd, newid symbolaidd fydd y newid yma - dyma fydd un o'r trethi Cymreig gyntaf mewn bron I 800 mlynedd.

Er hynny, swm bychan yw'r tua £250 miliwn y flwyddyn mae disgwyl y bydd y 'dreth stamp' Gymreig yn codi o gymharu â chyllideb gyfan lywodraeth Cymru oddeutu £15 biliwn.