Connacht 11-32 Gweilch

Connacht 11-32 Gweilch Image copyright Inpho

Fe lwyddodd y Gweilch i ennill dau bwynt bonws wedi ail fuddugoliaeth o ddwy gêm, ac felly yn codi i frig tabl y Pro12, wrth iddyn nhw chwalu ymdrechion y pencampwyr, Connacht, nos Sadwrn.

Fe sgoriodd Rhys Webb geisiau yn y naill hanner, gyda Tyler Ardron a Jeff Hassler hefyd yn croesi i'r ymwelwyr, a Sam Davies yn ychwanegu 12 pwynt gydag ergydion rhwng y pest.

Fe sgoriodd Eoin McKeon unig gais Connacht, gyda Jack Carty yn cicio dwy gic gosb.