Plaid Cymru yn cyhoeddi 'rhaglen yr wrthblaid'

plaid

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu hamcanion am y tymor Cynulliad, sy'n cynnwys cynnig gofal plant am ddim a sefydlu banc cenedlaethol ac asiantaeth ddatblygu.

Wrth i'w phlaid lansio "Rhaglen yr Wrthblaid" ddydd Llun, mae'r arweinydd Leanne Wood wedi addo darparu'r "fargen orau i bobl Cymru".

Mae Ms Wood hefyd wedi dweud ei bod am ddal llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif "gyda chraffu cadarn".

Dywedodd bod Plaid Cymru eisoes wedi sicrhau rhai enillion o dan y cytundeb wnaeth gadw Carwyn Jones fel prif weinidog.

Mae addewidion ar ofal plant, comisiwn isadeiledd a mynediad cleifion at gyffuriau newydd ymhlith y cytundeb hynny, yn ôl Ms Wood.