Dau yn y ddalfa wedi tân 'amheus' yn Sir Gaerfyrddin

tan Image copyright Google

Mae dau o bobl yn y ddalfa ar ôl tân "amheus" mewn fflat uwchben becws yn Sir Gaerfyrddin.

Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r fflat uwchben Jenkins Bakery yn Llwynhendy, Llanelli, ychydig ar ôl 08:00 ddydd Sul.

Mae dyn a dynes yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101.