Rio: Medal aur gyntaf y Cymry

morris Image copyright Reuters

Mae'r rhwyfwraig Rachel Morris wedi llwyddo i sicrhau medal aur gyntaf i'r Cymry yn y gemau Paralympaidd yn Rio eleni.

Fe lwyddodd Morris, 37 oed, i orffen trwch blewyn ar y blaen yng nghystadleuaeth rhwyfo breichiau'n unig.

Cafodd Rachel Morris lwyddiant i ddechrau gyda champ llawfeicio, gan ennill yn y gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008.

Ond ar ôl cael ei tharo gan gar, cafodd ei llawfeic ei ddifrodi ac fe gafodd anaf i'w hysgwydd. Wrth ddisgwyl am feic newydd dechreuodd rwyfo.

Daeth yn bumed ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Byd yn 2014 ac enillodd fedal arian yn 2015.