Tata Ewrop yn cyhoeddi elw yn y chwarter olaf

Port Talbot steel works Image copyright Getty Images
Image caption Port Talbot

Mae cwmni dur Tata wedi gwneud elw yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol yn eu safleoedd yn Ewrop.

Mae sector Ewropeaidd y cwmni, sy'n cynnwys gwaith Port Talbot, wedi gwneud elw o £90m, o'i gymharu â cholled o £64m yn y cyfnod blaenorol.

Yn fyd eang fe wnaeth Tata golled o £358m yn y cyfnod hyd at 30 Mehefin.

Ym mis Mawrth cyhoeddodd Tata eu bod am werthu safle Port Talbot ynghyd a'u safleoedd eraill ym Mhrydain.

Ar y pryd roedd y cwmni'n dweud nad oedd modd cystadlu gyda mewnforion rhad o China.

Ond ym mis Gorffennaf cyhoeddodd y cwmni eu bod yn oedi cyn gwerthu, er mwyn trafod y gwahanol opsiynau.

Mae tua 4,000 yn gweithio ym Mhort Talbot ac mae Tata yn cyflogi 6,000 ledled Cymru - yn Llanwern, Trostre a Shotton. Mae 17,000 yn gweithio i'r cwmni yn y DU.