Aelodau Seneddol i drafod Mesur Cymru yn San Steffan

Senedd

Yn ddiweddarach ddydd Llun bydd Aelodau Seneddol yn trafod Mesur Cymru. Dyma'r mesur sy'n argymell pwerau newydd i'r Cynulliad dros ynni a thrafnidiaeth, ymysg pethau eraill.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, dyma'r cam nesaf ar gyfer taith datganoli Cymru.

Mi fydd y Mesur yn rhoi pen ar y dadleuon ynglŷn â phwerau'r Cynulliad, meddai Mr Cairns. Mae e'n awyddus bod pobl yn deall beth sydd wedi ei ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli.

Felly, mi fydd y ddeddfwriaeth newydd yn diffinio'n union beth sydd dan reolaeth San Steffan, fel rhan o fodel o gadw pwerau'n ôl. Mae hyn yn gwbl groes i'r drefn bresennol. Mae'r ddeddfwriaeth ar y foment yn amlinellu pa feysydd sydd dan reolaeth y Cynulliad, gyda'r dybiaeth fod popeth arall dan reolaeth San Steffan.

Mi fydd y ddeddfwriaeth newydd yn ehangu pwerau'r Cynulliad - gan drosglwyddo rheolaeth dros ffracio, arwyddion ffyrdd, etholiadau'r Cynulliad a chyfyngiadau cyflymder. Yn ogystal, mi fydd yn galluogi'r Cynulliad i gael statws Senedd am y tro cyntaf.

Image copyright PA

Hyderus

Mae Swyddfa Cymru yn hyderus y bydd y Mesur yn cael ei gymeradwyo gan Aelodau Seneddol ddydd Llun - gan fynnu eu bod nhw wedi ceisio sicrhau trafodaeth lawn gyda'r Cynulliad a'r pleidiau oll. Ond mae'r mesur yn sicr wedi achosi cryn dipyn o ddrwgdeimlad rhwng Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd a Llywodraeth San Steffan.

Nôl ym mis Hydref, 2015 mi wnaeth Stephen Crabb, sef Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, gyhoeddi Mesur drafft Cymru. Achosodd y fersiwn drafft ffrae fawr, gyda rhai yn cyhuddo llywodraeth San Steffan o geisio Gymryd pwerau'n ôl o Fae Caerdydd.

Mae'r Mesur bellach wedi ei ailwampio yn sylweddol. Pan gyhoeddwyd y Mesur ar ei newydd wedd, mi ddywedodd Alun Cairns, fod llywodraeth Cymru yn "cytuno'n gyffredinol gyda hanfodion" y Mesur.

Ychwanegodd fod llywodraethau Prydain a Chymru "am gael yr un pethau, rydym am i Lywodraeth Cymru fod yn atebol am y penderfyniadau mae'n ei wneud."

'Cenedl eilradd'

Ond nid yw pawb sydd yn gwbl hapus gyda'r Mesur. Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams, mae'r mesur yn "cadarnhau statws Cymru fel cenedl eilradd o fewn y Deyrnas Gyfunol". O ganlyniad, mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliannau i'r Mesur, er mwyn sicrhau medde nhw "bod Cymru yn cael ei thrin gyda'r un parch a chenhedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol".

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones hefyd o'r farn bod angen "mwy o waith ar rai agweddau" o'r Mesur.

Nôl ym mis Mehefin dywedodd Carwyn Jones bod "yna rai materion fel plismona, ble rydyn ni'n credu fel yr Alban a Gogledd Iwerddon neu Fanceinion petai'n dod i hynny, y dylai Cymru gael rheoli plismona. Mae llywodraeth San Steffan yn credu y dylai hynny aros yn Llundain."

Ond dyw heddiw ddim yn ddiwedd y daith ar gyfer Mesur Cymru. Os yw yn llwyddiannus heddiw yn Nhŷ'r cyffredin mi fydd wedyn yn dod dan sylw'r Arglwyddi.