Caerdydd yn dathlu canmlwyddiant yr awdur Roald Dahl

Roald Dahl Image copyright PA

Ganrif yn ôl, cafodd un o'r storïwyr gorau erioed, Roald Dahl, ei eni yn Llandaf, Caerdydd.

Ar y pen-blwydd arbennig yma, bydd cyfle i blant ac oedolion gofio Willy Wonka, Miss Trunchbull a'r Twits ynghyd â gweddill cymeriadau anfarwol yr awdur, wrth i ddisgyblion ar draws y wlad nodi'r achlysur drwy wisgo fel eu hoff ddihirod ag arwyr.

Mae llyfrau Dahl yn ganolog i sawl plentyndod, gyda dros 200 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu ar draws y byd ar ôl cael eu cyfieithu i 59 iaith, gan gynnwys wrth gwrs, y Gymraeg.

Elin Meek gafodd yr her o drosi ei eiriau o'r Saesneg.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd y cyfieithydd bod y profiad wedi bod yn un "pleserus dros ben", a'i fod yn awdur "llawn bywiogrwydd a dychymyg".

Er hynny, roedd Ms Meek yn cydnabod nad oedd y profiad yn un hawdd, a bod gofyn bod yn ddyfeisgar.

"Byddai'n creu geiriau, felly byddai'n trio creu geiriau yn yr un modd neu chwarae o gwmpas gyda brawddegau, yn enwedig gydag un gyfrol sef y Cawr Mawr Mwyn yr 'CMM', y 'BFG' yn Saesneg, felly o'n i'n dilyn yr hyn odd e'n wneud mewn gwirionedd," meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Disgyblion Ysgol Pwll Coch sy'n dweud pam eu bod nhw'n hoffi llyfrau Roald Dahl

Mae rhai wedi codi pryderon bod gormod o bwyslais ar gyfieithu llyfrau Roald Dahl.

Yn ôl Ms Meek, mae hi'n "cydymdeimlo'n fawr" â'r safbwynt ond dywedodd bod "statws iddo fel awdur plant felly mae'n dda eu bod nhw ar gael yn y Gymraeg."

Ychwanegodd bod "rhieni di Gymraeg yn gweld llyfrau maen nhw'n eu hadnabod, ac mae'n gallu bod yn ffordd i mewn i ddarllen".

Er hynny, dywedodd: "Erbyn yr oedrannau hŷn, mae'n bwysig bod llyfrau Cymraeg cynhenid ar gael."

Image caption Cafodd plac ei ddadorchuddio ger man geni Roald Dahl yn Llandaf ddydd Llun

Mae Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn dweud bod cyfieithu'n "ffon ddeublyg".

"Ar y naill law, mae'n hanfodol - mae'n gyfle i ymestyn gorwelion yr iaith frodorol drwy ddod â'r goreuon a'r pethau mwyaf difyr a ffraeth o'r tu allan i Gymru i'r iaith Gymraeg," meddai.

"Ond eto, mae 'na fygythiad yn dod yn sgil cyfieithu hefyd, os ydi'r cyfieithu yna'n dod heb ystyriaeth ynglŷn ag anghenion y farchnad wreiddiol Gymraeg hefyd."

Roedd Dr Rosser ymhlith academyddion a gyfrannodd i gasgliad o erthyglau yn edrych ar berthynas Roald Dahl â Chymru.

Er bod cysylltiadau Dahl â Norwy a Lloegr yn gyfarwydd i nifer, eleni, ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant, bu ymdrech fawr i dynnu sylw at ddylanwad Cymru ar ddychymyg lliwgar yr awdur.

Image caption Bu farw Roald Dahl yn 1990

Dywedodd Dr Rosser ei bod hi'n "meddwl ei bod hi'n hawdd iawn i ni ddiystyru Cymreictod a Roald Dahl oherwydd mae pobol yn dweud ei fod wedi gadael pan oedd yn hogyn ifanc.

"Doedd o ddim wedi cymysgu rhyw lawer â chylchoedd Cymreig yn ei blentyndod, ond eto yng Nghaerdydd oedd o yn y blynyddoedd ffurfiannol hynny."

Bydd dathliadau'r canmlwyddiant yn parhau dros y penwythnos, wrth i Gaerdydd droi'n 'Ddinas yr Annisgwyl'.

Dydi'r trefnwyr ddim wedi datgelu llawer am yr hyn sydd ar y gweill, ond maen nhw'n dweud mai dyma fydd yr ŵyl gelf fwyaf erioed ar 'strydoedd y brifddinas, gyda 6,000 o berfformwyr yn rhan o'r digwyddiad.

26 mlynedd ers ei farwolaeth, mae hud a lledrith Roald Dahl yn parhau, yn enwedig yn ei wlad, a'i ddinas enedigol.