Cymeradwyo Mesur Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin

Senedd

Mae Aelodau Seneddol wedi cymeradwyo Mesur Cymru ar lawr Tŷ'r Cyffredin ddydd Llun.

Dyma'r mesur sy'n argymell pwerau newydd i'r Cynulliad dros ynni a thrafnidiaeth ymysg pethau eraill.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns mae'r Mesur yn rhoi terfyn ar y dadleuon ynglŷn â phwerau'r Cynulliad.

Mae'n awyddus bod pobl yn deall beth sydd wedi ei ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn diffinio'n union beth sydd dan reolaeth San Steffan, fel rhan o fodel o gadw pwerau'n ôl - sydd yn gwbl groes i'r drefn bresennol.

Mae'r ddeddfwriaeth ar hyn o bryd yn amlinellu pa feysydd sydd dan reolaeth y Cynulliad, gyda'r dybiaeth fod popeth arall dan reolaeth San Steffan.

Image caption Mae Alun Cairns yn dweud bod y Mesur yn rhoi terfyn ar y dadleuon ynglŷn â phwerau'r Cynulliad

'Grym newydd'

"Mae hwn yn rhoi grym newydd i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad" meddai Mr Cairns.

"Mae'n rhoi'r grym iddyn nhw ddeddfwriaethu ar faterion sydd yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.

"Hyd yn hyn rydyn ni wedi cael llawer o ddadleuon am bwy sy'n gyfrifol am ba lefel o bolisi. Mae hwn yn dod a rhyw fath o ddiwedd nawr i'r ddadl, lle mae'n ddigon clir pwy sy'n gyfrifol am bob dim.

"Mae hwn yn creu Cynulliad sydd yn wir atebol a llywodraeth sydd yn wir atebol i'r cyhoedd yng Nghymru.

"Mae hwn yn rhoi grym newydd eu bod nhw'n gallu deddfwriaethu ar y polisïau sy'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Nawr mae fyny i Lywodraeth Cymru ymateb i'r her newydd."

Pwerau newydd

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn ehangu pwerau'r Cynulliad - gan roi rheolaeth dros ffracio, arwyddion ffyrdd, etholiadau'r Cynulliad a chyfyngiadau cyflymder.

Yn ogystal, bydd yn galluogi'r Cynulliad i gael statws Senedd am y tro cyntaf.

Mae Swyddfa Cymru yn mynnu eu bod nhw wedi ceisio sicrhau trafodaeth lawn gyda'r Cynulliad a'r pleidiau oll.

Serch hynny, mae'r mesur wedi achosi cryn dipyn o ddrwgdeimlad rhwng Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd a Llywodraeth San Steffan.

Ym mis Hydref 2015 fe wnaeth Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, gyhoeddi Mesur drafft Cymru, wnaeth achosi ffrae fawr, gyda rhai yn cyhuddo Llywodraeth San Steffan o geisio cymryd pwerau'r ôl o fae Caerdydd.

Ailwampio

Mae'r Mesur bellach wedi ei ailwampio yn sylweddol. Pan gyhoeddwyd ar ei newydd wedd, dywedodd Alun Cairns bod Llywodraeth Cymru yn "cytuno'n gyffredinol gyda hanfodion" y Mesur.

Ychwanegodd bod llywodraethau Prydain a Chymru "am gael yr un pethau",

"Rydym am i Lywodraeth Cymru fod yn atebol am y penderfyniadau mae'n ei wneud," meddai.

Image caption Dywedodd Jonathan Edwards bod y mesur yn "eilradd iawn ei natur"

Ond nid yw pawb yn gwbl hapus gyda'r Mesur.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards "ychydig yn siomedig" gan fod y ddeddf yn "eilradd iawn ei natur o gymharu gyda'r hyn sydd ar gael i'r Alban a Gogledd Iwerddon".

Dyw'r Mesur ddim yn gwireddu'r "cytundeb gafodd ei wneud adeg Comisiwn Silk", meddai.

Ychwanegodd: "Dyna oedd y peth cyntaf oedden ni'n ceisio cyflawni - felly pwerau dros bethau megis yr heddlu ag ati, a chyfiawnder a holl radd o fesurau ffiscal sy'n bwysig iawn o ran yr economi.

"Ond ers Comisiwn Silk, wrth gwrs, mae newidiadau enfawr wedi digwydd yn wleidyddol.

"Yn gyntaf, wrth gwrs, annibyniaeth yn yr Alban - y refferendwm yno a'r canlyniad yn cael ei golli, ond yn arwain at Ddeddf Yr Alban - gyda phwerau enfawr i'r Alban o ran pwerau ffiscal a phob math o feysydd polisi eraill.

"Ac wedyn yn y gwanwyn 'ni wedi cael refferendwm Brexit, sydd yn fy marn i yn mynd i orfod gweddnewid sut mae'r Wladwriaeth Brydeinig yn dosbarthu pŵer yn fewnol.

"Nid yw'r ddeddf hon yn mynd yn agos i edrych ag ymateb i'r datblygiadau enfawr hynny sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf."

Plismona

Mae Prif Weinidog Cymru hefyd o'r farn bod angen "mwy o waith ar rai agweddau" o'r Mesur.

Ym mis Mehefin dywedodd Carwyn Jones: "Mae 'na rai materion fel plismona , ble rydyn ni'n credu, fel Yr Alban a Gogledd Iwerddon, neu Fanceinion petai'n dod i hynny, y dylai Cymru gael rheoli plismona."

Fe wnaeth Alun Cairns bwysleisio yn glir ddydd Llun na fyddai hynny yn digwydd yn y dyfodol agos.

"Mae Carwyn Jones wedi derbyn bod hwn yn llinell goch i ni fel Llywodraeth San Steffan," meddai. "Dy'n ni ddim eisiau datganoli yn y ffordd mae fe'n gofyn amdano.

"Wrth gwrs ry'n ni wedi datganoli plismona i'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, felly mae'r cymunedau wirioneddol wedi cymryd rôl dros edrych ar ôl sut mae'r heddlu'n gweithredu yn eu cymunedau.

"Felly does dim llawer o bwrpas i roi'r grym i fae Caerdydd pan mae Heddlu Dyfed Powys, neu Heddlu'r Gogledd neu Heddlu De Cymru neu Gwent yn cymryd cyfrifoldeb dros yr heddlu yn y gymuned yn uniongyrchol."

Er yr amheuon ynglŷn â'r Mesur, fe wnaeth Aelodau Seneddol ei gymeradwyo ddydd Llun.

Ond nid dyma ddiwedd taith Mesur Cymru, a bydd nawr yn dod dan sylw'r Arglwyddi.