Dynes wedi marw mewn tân yn Abertawe

The Mean Image copyright Google
Image caption Cafodd y ddynes ei darganfod mewn adeilad ar stryd The Mead yn Nyfnant

Mae dynes wedi cael ei chanfod yn farw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r adeilad ar stryd The Mead yn ardal Dyfnant tua 18:00 nos Lun.

Dydi'r ddynes heb gael ei henwi eto.

Mae Heddlu'r De'n cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ar y cyd â'r gwasanaeth tân ac achub.

Mae teulu'r ddynes a'r crwner wedi cael gwybod am ei marwolaeth.