Cwmni sganio dogfennau'n creu 18 o swyddi ym Mhenarlâg

ardal fenter Image copyright Google
Image caption Mae safle'r ganolfan newydd o fewn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy

Bydd 18 o swyddi'n cael eu creu yn Sir y Fflint wrth i gwmni sganio dogfennau ehangu.

Mae Cleardata yn agor canolfan newydd yn Mharc Busnes Penarlâg, mewn buddsoddiad gwerth £1.5m.

Mae'r cwmni hefyd wedi derbyn Grant Datblygu Eiddo gwerth £300,000 gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae gan Cleardata swyddfa fach ym Mrychdyn, sy'n cyflogi tri pherson.