Plentyn bach wedi marw wedi i le tân ddisgyn ar ei ben

Ambulance

Mae plentyn bach wedi marw wedi i le tân ddisgyn ar ei ben yn Sir y Fflint.

Bu farw Malaki Hughes, oedd yn ddyflwydd oed, yn dilyn y digwyddiad mewn tŷ yn Saltney fore Llun.

Cafodd yr heddlu, parafeddygon a meddyg eu hanfon i'r digwyddiad am tua 08:40.

Fe gafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Caer ond doedd dim modd ei achub.