Llofruddiaeth: Gŵr wedi marw ar ôl cael ei arestio

Ffordd Fairfax, Caerdydd Image copyright Wales News Service
Image caption Fe gafodd corff Margaret Mayer ei ddarganfod mewn tŷ yn y Mynydd Bychan

Mae dyn 86 oed oedd wedi'i arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth ei wraig yng Nghaerdydd wedi marw yn yr ysbyty.

Cafodd corff Margaret Mayer, 85 oed, ei ddarganfod mewn tŷ ar Ffordd Fairfax yn ardal y Mynydd Bychan ym mis Gorffennaf.

Fe gafodd hi ei darganfod wedi i'w gŵr, Angus Mayer, gael ei daro gan drên yng ngorsaf Caerdydd Canolog a'i gymryd i'r ysbyty.

Cafodd Mr Mayer ei arestio, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth. Ni chafodd ei gyhuddo.

Fe wnaeth Heddlu'r De gadarnhau ddydd Mawrth bod y dyn 86 oed wedi marw ac y byddai dau gwest yn cael eu cynnal i'r marwolaethau.