Rio: Aur i Rob Davies yn y tennis bwrdd

Rob Davies Image copyright Getty Images

Mae Rob Davies wedi ennill medal aur yn y tennis bwrdd yn y Gemau Paralympaidd yn Rio.

Llwyddodd y gŵr 32 oed o Aberhonddu i drechu Young Dae Joo o Dde Korea o 3-1 yn ffeinal y gystadleuaeth dosbarth 1 ddydd Mawrth.

Ef oedd y ffefryn i ennill yr aur wedi iddo ailennill ei safle ar frig detholion y byd yn ei ddosbarth.

Roedd Davies yn chwarae rygbi i Glwb Rygbi Aberhonddu nes iddo dorri ei wddf mewn sgrym pan oedd yn 21 oed.