Sylw 'holocost' Neil Hamilton yn 'anfaddeuol', yn ôl AC

Neil Hamilton
Image caption Neil Hamilton yw arweinydd UKIP yn y Cynulliad

Mae AC Llafur wedi beirniadu arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton am ddisgrifio gobeithion etholiadol Llafur fel "holocost".

Dywedodd Mr Hamilton y byddai Llafur yn "dioddef holocost" gan golli seddi yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2020.

Ychwanegodd ei fod yn edrych 'mlaen i weld y blaid yn colli seddi.

Fe wnaeth AC Llafur, Joyce Watson ei annog i "dreulio amser yn meddwl am yr hyn y mae'r gair holocost yn ei feddwl, yn enwedig i deuluoedd Iddewig".

'Cymryd mantais'

Roedd Mr Hamilton yn siarad yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg ers i UKIP ennill ei seddi cyntaf yn y Cynulliad ym mis Mai.

Eglurodd mai nod ei blaid yw cymryd lle'r blaid Lafur, a bod Cymru yn cynnig lle da i wneud hyn.

"Gyda'r newidiadau i'r etholaethau sydd am ddigwydd cyn 2020, mae Llafur am ddioddef holocost, yn enwedig yng Nghymru, ac rwy'n edrych 'mlaen at hynny," meddai.

"Mae hynny'n gyfle y gall UKIP gymryd mantais ohono."

Yn ymateb i'r sylwadau, dywedodd Ms Watson: "Hyd yn oed i safonau Neil Hamilton, mae defnydd o'r iaith yma yn gwbl anfaddeuol.

"Dylai dynnu'r sylwadau yn eu hôl, ymddiheuro a threulio amser yn meddwl am yr hyn y me'r gair holocost yn ei feddwl, yn enwedig i deuluoedd Iddewig yng Nghymru."