'Gall toriad 3% i'r llywodraeth ddyblu heb arian Ewrop'

gwasanaethau cyngor Image copyright Thinkstock
Image caption Gallai amddiffyn gwariant ar iechyd olygu toriadau llym i wasanaethau eraill, medd yr adroddiad

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu toriad o 3.2% i'w chyllideb mewn termau real dros y tair blynedd nesaf, a gall hynny ddyblu os na fydd rhywbeth yn cymryd lle cyllid yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl melin drafod.

Mae'r sefydliad yn dweud bod hynny'n golygu, ar ôl chwyddiant, y bydd gan y llywodraeth tua £445m yn llai i wario o ddydd i ddydd yn 2020 na'r hyn sydd ganddo nawr.

Dywed Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) mai awdurdodau lleol sy'n debygol o weld y toriadau mwyaf llym.

Mae adroddiad newydd gan y sefydliad yn dweud y gallai pwerau newydd i gynyddu treth incwm o 1c ym mhob £1 yng Nghymru lenwi hanner y bwlch.

Bwriad Llywodraeth y DU yw datganoli peth rheolaeth dros dreth incwm i Lywodraeth Cymru, er nad oes cadarnhad pryd fydd hynny'n digwydd.

'Angen darganfod £500m'

Cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yw tua £15bn, ond mae gweinidogion wedi cwyno bod toriadau ar lefel Prydeinig yn golygu bod llai i'w wario.

Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid byddai penderfyniad i beidio torri ar wariant y Gwasanaeth Iechyd, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr, yn golygu bod adrannau eraill yn wynebu toriadau o 7.4%.

Image caption Dywed yr adroddiad nad yw'n glir os fydd cyllid ar gael ar ôl i nawdd Ewropeaidd ddod i ben

Wrth drafod cyllid Ewropeaidd, mae'r adroddiad yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi gwarantu cyllid i rai prosiectau tan 2020, ond "mae'n llai clir pa gyllid fydd ar gael i gynlluniau sy'n cael eu hariannu gan yr UE ar ôl 2020".

Mae'n ychwanegu: "Pe na bai cyllid ychwanegol, byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarganfod dros £500m y flwyddyn o'i chyllideb i barhau i ariannu'r cynlluniau yma.

"Gallai hynny ddyblu'r toriadau i gyllidebau i 6.9% yn 2020-21 (gan gymryd nad yw gweddill cyllideb Llywodraeth Cymru yn newid)."

'Penderfyniadau anodd'

Dywedodd Polly Simpson, economegydd gyda'r sefydliad ac awdures yr adroddiad, bod yr ymchwil yn "amlygu'r penderfyniadau cyllidebol anodd" sy'n wynebu'r llywodraeth.

"Byddai amddiffyn adrannau mor fawr ag iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn golygu toriadau sylweddol i adrannau eraill sydd eisoes wedi delio gyda saith mlynedd o doriadau," meddai.

"Mae hefyd yn bwysig i ddeall nad yw cynnydd mewn trethi dan reolaeth Llywodraeth Cymru neu'r cynghorau yn debygol o fod yn ateb i bob problem.

"Er enghraifft, hyd yn oed drwy gynyddu treth y cyngor o 7% y flwyddyn, gallai rhai gwasanaethau cyhoeddus wynebu toriadau o rifau dwbl dros y tair blynedd nesaf."