Datgelu cynlluniau i adfywio rhan o ganol Caerfyrddin

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi fideo o'r cynlluniau

Mae Fforwm Adfywio Tref Caerfyrddin wedi datgelu cynlluniau i adfywio rhan o'r dref.

Mae Sgwâr Jackson, Stryd y Brenin, a Stryd y Capel wedi eu cynnwys yn y cynigion i fywiogi rhan o'r dref sy'n aml yn angof.

Y nod yw arwain siopwyr o Ganolfan Siopa Rhodfa Santes Catrin, ymlaen i Stryd y Capel, Sgwâr Jackson ac i fyny i Stryd y Brenin lle mae'r rhan fwyaf o siopau annibynnol Caerfyrddin wedi'u lleoli.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cau Stryd y Brenin i gerbydau, a chreu ardal i gerddwyr yn unig.

'Sgrin awyr agored'

Byddai Sgwâr Jackson yn cael ei drawsnewid yn sgwâr agored, fyddai'n bwynt cyfarfod newydd i bobl y dref.

Mae'r cynigion yn cynnwys ardal ar gyfer bwyta tu allan yn ystod yr haf, gyda sgrin LED awyr agored a allai arddangos ddigwyddiadau chwaraeon, teledu a ffilmiau.

Byddai Stryd y Capel yn cynnwys unedau newydd, fyddai'n creu lle ar gyfer busnesau bach newydd yng nghanol y dref.

Image copyright Cyngor Caerfyrddin

'Naws arbennig'

Mae'r cynlluniau wedi cael eu croesawu gan Marian Ritson o Siop Pethau Bychain ar Stryd y Brenin.

"Ers blynyddoedd da' ni di bod wrthi yn siarad efo'r cyngor ynglŷn â datblygu Heol y Brenin, achos hwn yw ydi'r ardal hynafol yng Nghaerfyrddin, ac wrth gwrs mae'n llawn o siopau annibynnol, sydd yn rhoi naws arbennig i'r dre'," meddai.

"Chi'n gwybod, allwch chi fynd i unrhyw dre' ac mae'r un hen siopau, ond ar Heol y Brenin pobl annibynnol sydd 'ma."

Mae hi hefyd yn credu bydd y cynigion yn denu mwy o bobol i'r ardal.

"Unwaith mae pobol yn ffeindio Heol y Brenin maen nhw'n dod yma trwy'r amser, ond y dasg yw i'w harwain nhw yma mewn gwirionedd," meddai.

Image caption Mae Marian Ritson yn credu bydd y cynigion yn denu mwy o bobol i'r ardal

Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Dai Jenkins: "Mae swm o arian wedi ei roi mewn yng nghynllun pum mlynedd - y cynllun cyfalaf - sef £500,000.

"Mae rhaid dechrau ar y broses gyntaf - ymgynghori 'da phobl y dre' cyn bod pethau'n mynd yn eu blaen."

O ran ffynonellau eraill fe ddywedodd Mr Jenkins bod y cyngor yn "gweithio mewn partneriaeth gyda chwmnïau preifat ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun".

"Llywodraeth Cymru - falle rhoddan nhw rywbeth," meddai.

"Mae hi'n anodd siarad am arian Ewropeaidd a gwybod lle y'n ni ar fusnes Ewrop ar hyn o bryd - ond cawn weld beth sydd o'n blaen ni."