Cynnal angladd Rowena Kincaid wedi ei brwydr â chanser

Rowena Kincaid

Cafodd angladd Rowena Kincaid, fu'n olygydd lluniau yn adran newyddion BBC Cymru, ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Fe wnaeth Ms Kincaid, oedd yn 40 oed ac yn dod o'r brifddinas, gynhyrchu dwy raglen ddogfen am ei brwydr saith mlynedd â chanser.

Roedd rhaglenni Before I Kick The Bucket yn dilyn ei thaith wrth iddi wynebu'r salwch.

Bu cannoedd o bobl yn yr angladd a cafodd ei llythyr yn ffarwelio gyda'i theulu a'i ffrindiau ei ddarllen yn y digwyddiad gan ei chwaer.

Yn y llythyr dywedodd ei bod yn "ddiolchgar am y bywyd a gefais, ac yn lwcus i gael profi beth oedd gan y byd yma i'w gynnig".

Yn y rhaglenni dogfen fe wnaeth hi ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am sut y gall diagnosis cynnar o ganser achub bywydau.

Cafodd ei disgrifio gan gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, fel "cydweithiwr arbennig a hael oedd yn cyffwrdd ein bywydau mewn ffordd mor bositif".