Preston North End 3-0 Caerdydd

Preston players celebrate Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Caerdydd wedi colli eu trydedd gêm yn olynol ar ôl cael cweir gan Preston yn Deepdale.

Fe roddodd y capten, Tom Clarke, y tîm cartref ar y blaen, gyda Callum Robinson yn sgorio'r ail cyn hanner amser.

Fe sgoriodd Jordan Hugill gôl hwyr i selio'r fuddugoliaeth i Preston.

Mae'r canlyniad yn gadael Caerdydd yn 21ain yn y tabl, gyda gwahaniaeth goliau yn sicrhau nad ydyn nhw yn y tri isaf.