Morgannwg yn methu atal dyrchafiad Essex

Ryan ten Doeschate Image copyright Rex Features
Image caption Sgoriodd Ryan ten Doeschate 109 heb fod allan ar ail ddiwrnod y chwarae

Mae Essex wedi sicrhau dyrchafiad i Adran Gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd yn yr ail ddiwrnod o chwarae yn erbyn Morgannwg.

Dim ond 30 wnaeth Morgannwg adio at eu cyfanswm dros nos, gan orffen eu batiad ar 286.

Roedd Essex mewn ychydig o drafferth wrth i Craig Meschede gymryd tair wiced a gadael Essex ar 85-5, ond sgoriodd y capten Ryan ten Doeschate 109 heb fod allan i achub ei dîm.

Fe wnaeth Essex orffen y dydd ar 275-6, 11 o rediadau ar ei hôl hi.

Ond yn bwysicach i Essex yw'r pwyntiau bonws am fatio sy'n sicrhau y bydd y tîm cartref yn chwarae yn yr Adran Gyntaf y tymor nesaf.