Trafod cwtogi'r wythnos ysgol yng Nghymru

stafell ddosbarth

Mae adroddiad wedi trafod os y dylid ystyried cwtogi'r wythnos ysgol i bedwar diwrnod a hanner hir, ag un diwrnod byr.

Yn ôl Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru (PPIW) fe allai'r newid arbed arian, gwella cyfleoedd i athrawon a rhoi cyfle i blant wneud rhagor o weithgareddau.

Ond fe allai newid o'r fath effeithio ar ofal plant yn ogystal â threfniadau trafnidiaeth a digwyddiadau allgyrsiol.

Dywedodd y llywodraeth eu bod yn croesawu'r adroddiad ac y bydden nhw'n ei ystyried, ond nad oedd ganddyn nhw gynlluniau i newid y drefn ar hyn o bryd.

Mwy o amser rhydd?

Yn ôl yr adroddiad does dim tystiolaeth amlwg naill ffordd neu'r llall eto ynglŷn â manteision ac anfanteision y drefn, fyddai'n golygu pedwar diwrnod hirach ac yna pumed diwrnod byrrach.

Mae'r rheiny sydd o blaid y newid yn dweud y byddai'n rhoi mwy o amser rhydd i ddisgyblion dreulio gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau, ar weithgareddau ar ôl ysgol neu ar apwyntiadau, a hynny heb fethu gwersi.

Ond fe allai cael rhai ysgolion yn dilyn y drefn newydd, ac eraill ddim, achosi problemau o ran gofal i staff oedd yn gweithio mewn lleoliad gwahanol i'w plant. Roedd pryder hefyd y gallai disgyblion flino o orfod bod yn yr ysgol am amser hirach am bedwar diwrnod.

Dywedodd swyddog polisi undeb athrawon NUT Cymru, Owen Hathway ei fod yn "amheus" o'r cynnig, ac nad oedd digon o dystiolaeth eto o wledydd eraill i ddangos y byddai'n gweithio.

'Dim newid'

Fe bwysleisiodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad, gafodd ei chomisiynu gan y cyn-weinidog addysg Huw Lewis, ond nad oedd ganddyn nhw gynlluniau i newid y drefn ar hyn o bryd.

"Gofynnwyd i PPIW edrych ar sut y gall tystiolaeth ac ymchwil fod o gymorth i ni wrth wella polisïau ac arferion yng Nghymru, a dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wneud hynny," meddai'r llefarydd.

"Fe wnaethon nhw gynnig ystod o syniadau i ni ac fe ddylen ni eu hystyried nhw i gyd mewn manylder, wrth i ni barhau i ganolbwyntio ar godi safonau yn ein hysgolion, a magu uchelgais ein disgyblion a'n pobl ifanc."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Llyr Gruffydd bod esiampl yr Alban, ble mae trefn debyg eisoes yn bodoli, "yn dangos bod modd gwneud iddo weithio".

Ond roedd llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar yn llai croesawgar i'r syniad, gan ddweud y gallai greu trafferthion gofal plant ac ychwanegu at draffig ar adegau prysur, gan gwestiynu'r angen i gomisiynu'r adroddiad yn y lle cyntaf.