Cleifion a meddygon yn cael eu hannog i gyd-drafod mwy

Meddyg

Mae ymgyrch newydd yn annog cleifion yng Nghymru i gael mwy o ddylanwad mewn trafodaethau ynglŷn â'r gofal a'r triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw

Mae'r ymgyrch, sy'n cael ei lansio ddydd Gwener, yn annog perthynas "mwy cyfartal" rhwng meddygon a chleifion.

Daw hyn yn dilyn pryderon fod hyd at 20% o driniaethau'r gwasanaeth iechyd - naill ai ddim yn elwa cleifion neu yn achosi niwed iddyn nhw - sefyllfa, yn ôl un meddyg blaenllaw sy'n "amlwg yn annerbyniol".

Ond mae 'na bryder y gallai'r ymgyrch gael ei ddehongli fel ymgais i arbed arian.

Mae Dewis Doeth Cymru yn annog cleifion i gymryd rhagor o gyfrifoldeb yn y broses o ddewis pa driniaethau neu brofion sy'n addas ar eu cyfer - drwy gael trafodaeth onest ac agored a gweithwyr iechyd.

Mi all y cynllun fod o fudd i ddioddefwyr clefydau difrifol megis canser gan fod cleifion yn aml yn cael eu gorfodi i dderbyn triniaeth sy'n eu gadael gyda safon byw gwaeth.

Mae'r ymgyrch yn annog cleifion i ofyn 4 cwestiwn allweddol ac mae'n bosib y bydd y cwestiynau yn ymddangos yn fuan mewn ystafell aros meddygfeydd.

Image copyright OnBlast

Yn ôl cefnogwyr, os yw cleifion yn "cymryd perchnogaeth" o'i gofal - yna maen nhw'n fwy tebygol o ddilyn yr hyn sy'n cael ei awgrymu, llai tebygol o ofyn am driniaethau diangen, a llai tebygol o fod angen gofal pellach - sy'n golygu gwell canlyniadau iechyd yn y pen draw.

Mae gweithwyr iechyd hefyd yn cael eu hannog i drafod yn agored manteision a risg unrhyw driniaeth - a rhoi'r gore i'r meddylfryd "ni sy'n gwybod orau".

'Rhy swil' i ymyrryd

Dywedodd Dr Paul Myres, arweinydd y cynllun a chadeirydd Academi y Colegau Brenhinol Meddygol yng Nghymru: "Yn rhyfedd, mae 'na duedd yng Nghymru i gredu mai'r meddyg a ŵyr orau ac yn ôl clinigwyr sy'n dod i weithio yma 'dyw'r Cymry ddim mor ymwthgar â chenhedloedd eraill - maent yn fwy goddefol.

"Ry'n am eu hannog i holi ac i drafod mwy."

Mae Dr Myres yn cydnabod y bydd gweithredu'r cynllun yn cymryd amser ar y dechrau.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Y ffysiotherapydd Gary Morris yn trafod pwysigrwydd trafod yr opsiynau gyda'r claf

Mae'n dweud hefyd na fydd pawb, boed yn glaf neu'n feddyg, yn ei weithredu: "Ond os bydd 10% o gleifion a chlinigwyr yn cyd-drafod mi allai hynny olygu y bydd 10% o gleifion yn elwa."

Ychwanegodd: "Yn rhy aml o lawer y mae meddyg yn dilyn cyfarwyddiadau meddygol yn haearnaidd. Yn aml ry'n yn niweidio claf - mae hynny'n gwbl annerbyniol ac yn wastraff."

Dylanwad arian?

Mae Dr Mair Parry, meddyg plant ym Mangor a llefarydd dros y Coleg Brenhinol y Meddygon Plant, yn cyfaddef efallai bod rhai aelodau o'r cyhoedd wedi colli hyder yn eu meddyg, ac mai arian sy'n dylanwadu ar benderfyniadau.

"Mae pethau, yn anffodus, sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf - rhwng yr holl siarad am y sefyllfa economaidd ac ariannu iechyd - wedi arwain at bobl yn cymryd, os 'da ni'n dweud 'dim y sgan yna 'da chi ei eisiau' neu 'dim y feddyginiaeth yna 'da chi ei eisiau', mae pobl yn syth yn meddwl 'rhy ddrud ydi o, dyna pam dydw i ddim yn ei gael o'."

Mae Gary Morris yn ffysiotherapydd gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac mae'n dweud bod trafod bob opsiwn gyda'r claf yn bwysig: "Mae lot o wahanol brofiadau a thriniaeth i gael ar gyfer problemau iechyd dyddiau yma.

"Ac mae e yn bwysig iawn bod ni yn gweithio 'da cleifion i wneud y penderfyniadau gore iddyn nhw, achos gyda bob profiad a thriniaeth mae pethau da amdanyn nhw ac mae risgiau i gael hefyd."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dr Ffion Williams - meddyg teulu ym Mhrestatyn yn croesawu Dewis Doeth Cymru

Gobaith trafod yn agored fel hyn yw y bydd yna ostyngiad yn nifer y triniaethau a'r profion "diangen" sy'n cael eu cynnig - ac y bydd cleifion sydd a gwir angen yn wynebu llai o oedi.

Ond mae arweinwyr yr ymgyrch yn cydnabod - y bydd peth amharodrwydd i fabwysiadu'r drefn newydd "ar y ddwy ochr" ac y bydd rhai yn amau mai ymgais yw hyn gan y gwasnaeth iechyd i arbed arian.