Gareth F Williams: 1955-2016

Gareth F Williams
Image caption Enillodd Gareth F Williams wobr Llyfr y Flwyddyn 2015 am ei nofel Awst yn Anogia

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r awdur Gareth F Williams, sydd wedi marw yn 61 oed.

Yn ôl ei gyfoedion, roedd yn "un o'n awduron mwyaf cynhyrchiol, safonol a di-lol" ac yn "ŵr tawel, diymhongar, llawn hiwmor a ffraethineb".

Enillodd Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn y llynedd gyda'i nofel, Awst yn Anogia, sy'n cael ei ystyried yn gampwaith llenyddol modern.

Enillodd Wobr Tir na n-Og, sy'n gwobrwyo'r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru, ar chwe achlysur rhwng 1991 a 2015.

Mewn cyfweliad diweddar gyda Cymru Fyw, dywedodd mai'r tro diwetha' iddo grio oedd "y llynedd, ar ôl cael newyddion go wael o'r ysbyty parthed fy iechyd".

Roedd sôn ei fod mewn "poen dirfawr" yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy ym mis Awst pan oedd yn un o'r tri oedd ar y panel ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen.

Un arall o'r beirniaid hynny oedd y gantores a'r awdures Fflur Dafydd. "Dyn hoffus dros ben oedd Gareth F," meddai. "Fe ddes i'w adnabod yn hwyr iawn yn ei fywyd, ond dwi'n ddiolchgar iawn am yr amser dreuliais i gydag e.

"Yr oedd yn awdur llawn deallusrwydd a hiwmor. Cyfranodd mor helaeth at y byd llenyddol Cymraeg, a'r byd teledu yng Nghymru, a hynny mewn ffordd ddiymhongar dros ben.

"Roedd yn un o'n awduron mwyaf cynhyrchiol, safonol a di-lol. Ry'n ni'n dlotach hebddo."

Image caption Y beirniaid - Fflur Dafydd, Jon Gower a Gareth F Williams - yn cymryd hunlun gydag enillydd Gwobr Daniel Owen eleni, Guto Dafydd

Roedd hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan a'r sgrin, gan gynnwys y ddrama Siôn a Siân ac addasiad llwyfan o Lyfr Mawr y Plant.

Enillodd wobr BAFTA am ei sgript ffilm o Siôn a Siân, a gwobr yr ŵyl yn yr Ŵyl Ffilmiau Celtaidd am ei gyfres Pen Tennyn.

Roedd hefyd yn adnabyddus am gyd-greu cyfresi poblogaidd ar S4C, fel Pengelli a Rownd a Rownd.

'Ceisio ffarwelio'

Un a oedd yn ei adnabod yn dda oedd yr awdures a'r gyflwynwraig Bethan Gwanas.

"Ro'n i ar y ffôn efo Gareth fore Gwener dwytha," meddai. "Mi ddywedodd bod 'yr aflwydd wedi dod yn ôl' ond wnes i ddim sylweddoli nad oedd gwella i fod, ac yn sicr nad oedd llawer o amser ar ôl ganddo.

"O gofio'r sgwrs y bore 'ma, roedd hi'n amlwg ei fod yn ceisio ffarwelio; yn cyfeirio at y ffaith ein bod yn 'fêts' a'i fod wir wedi mwynhau ein perthynas fel golygydd ac awdur, ac fel cyfeillion.

"Roedd Gareth yn gwybod yn reddfol sut i ddweud stori a sut i wneud i'r darllenydd garu a phoeni am ei gymeriadau.

"Er hynny, roedd Gareth yn ddyn mor annwyl a diymhongar, doedd o wir ddim yn sylweddoli pa mor wych oedd o fel awdur. Pan fyddai'n clywed rhywun yn ei ganmol, byddai'n gwirioni. Pan fyddai'n ennill gwobr, byddai ar ben ei ddigon.

"Ond ennill Llyfr y Flwyddyn yn 2015 oedd y Wobr Fawr iddo. O'r diwedd, roedd yn cael y sylw roedd yn ei haeddu am ei waith ar gyfer oedolion. Tan hynny, doedd 'y beirniaid' ddim wedi cymryd llawer o sylw ohono, yn sicr ddim wedi ei glodfori fel y dylen nhw fod wedi gwneud. Yr eironi yw y bydd pawb yn heidio i'w glodfori rŵan, a hithau'n rhy hwyr iddo fo gael clywed y ganmoliaeth."

Ychwanegodd: "Roedd o mewn cariad llwyr gyda Rachel, ei wraig, a hithau gydag yntau. Pleser oedd bod yng nghwmni'r ddau bob amser, y ddau wastad yn gwenu gyda gwên mor debyg, rhywsut, er gwaethaf ei waeledd neu ei drafferthion.

"Ac roedd ganddo drafferthion - rhai ariannol gan amlaf, am fod ysgrifennu llyfrau Cymraeg yn talu cyn lleied ac yntau'n sicr mai 'dim ond sgwennu fedra i neud'. Byddai'n sgwennu bob dydd - allai o ddim peidio. Dyna oedd ei fywyd.

"Roedd yn fraint cael ei nabod, yn fraint cydweithio ag o, ac yn fraint cael ei alw yn 'fêt'."

'Llawn hiwmor a ffraethineb'

Dywedodd y beirniad llenyddol a'r ddarlledwraig Catrin Beard ei fod yn lenor "dawnus a diwyd".

"Roedd ehangder ei ddiddordebau i'w gweld yn amrywiaeth ei waith," meddai, "o'i lyfrau i blant a phobl ifanc i'w sgriptiau ffilm a theledu a'i nofelau i oedolion, a ysbrydolwyd gan amrywiol bynciau, o luniau Edward Hopper i ffilmiau i hanes yr ail ryfel byd a ddarluniwyd mor grefftus yn ei gampwaith a osodwyd ar ynys Creta yng Ngroeg, oedd yn enillydd teilwng iawn yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn y llynedd.

"Nid llenor hanner ffordd oedd Gareth - roedd ei ymchwil a'i ymroddiad i'r gwaith yn ei alluogi i greu cymeriadau byw a sefyllfaoedd credadwy mewn nofelau gwerth eu darllen a dramau gwerth eu gweld. Does ryfedd iddo ennill gwobrau lu mewn cynifer o ffurfiau llenyddol.

"Gŵr tawel, diymhongar, llawn hiwmor a ffraethineb. Mawr yw'r bwlch y mae'n ei adael."

Dywedodd Ynyr Williams, Dirprwy Olygydd Radio Cymru, bod ei gyfraniad i "lenyddiaeth ac i ddarlledu yn anferth".

'Dewrder'

Meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd Cymraeg gwasg Y Lolfa: "Pleser pur oedd cydweithio â Gareth F. Roedd yn fwrlwm o syniadau ac roedd gwrando arno'n siarad am ei waith yn hwb i'r galon.

"Roedd yn ysbrydoliaeth, i blant ac oedolion, mewn gweithdai ysgrifennu, ac er ei fod yn berson swil a dihyder yn y bôn, roedd ei frwdfrydedd yn heintus.

"Dywedodd wrtha i yn ddiweddar fod cael gair o ganmoliaeth am ei waith, boed hynny mewn e-bost neu ar y stryd, yn meddwl y byd iddo, ac roedd yn rhyfeddu, ac yn teimlo'n emosiynol iawn, pan fyddai'n derbyn gwobr o unrhyw fath."

"Yr atgof olaf sydd gen i o Gareth yw cael cwtsh hir ganddo ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, funudau cyn iddo gamu ar lwyfan yr ŵyl fel un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen," ychwanegodd. "Roedd yn amlwg mewn poen dirfawr ond roedd ei ddewrder a'i gryfder y diwrnod hwnnw yn adrodd cyfrolau amdano."

Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: ''Roedd cyfraniad Gareth F Williams i faes llyfrau Cymraeg yn hynod nodedig gan gyhoeddi toreth o lyfrau ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc i sawl gwasg. Roedd ganddo ddawn arbennig i adrodd stori a bob amser yn pwysleisio yr angen i ddal dychymyg y darllenwyr.

"Arwydd o'i ddawn oedd iddo gipio Gwobr Tir na n-Og chwe gwaith - y tro cyntaf yn 1991 ac wedyn y llynedd gyda'r gyfrol Y Gêm a'i chefndir yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Doedd Gareth byth yn awyddus i ddenu sylw iddo'i hunan ond roedd ei gymeriad hynaws, rhywsut, yn pefrio drwy ei lyfrau."

Mae Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, wedi talu tynged i Mr Williams hefyd gan gyfeirio ato fel "'sgwennwr â greddf naturiol i greu stori gofiadwy".

"Roedd Gareth F Williams yn awdur ac yn sgriptiwr ar amrywiaeth ryfeddol o ddramâu, ond yn ganolog i'r cyfan roedd y reddf i adnabod a sgwennu stori afaelgar," meddai.

"Roedd yn deall pobl ac un a chanddo glust fain am ddeialog afaelgar, fachog a chyfoethog. Yn ddyn o brofiad eang, roedd yn fodlon delio â phynciau heriol yn ei waith ond gan gofio bob amser mai'r peth pwysicaf un oedd diddanu drwy greu cymeriadau a sefyllfaoedd cofiadwy.

"Mae ei farwolaeth yn golled fawr i'r byd teledu, drama a llenyddiaeth."