Cwest: 'Marwolaeth ddamweiniol' dyn o Wynedd ym Malta

Allan Stanley Image copyright facebook
Image caption Allan a Diane Stanley

Clywodd cwest sut y bu i ddyn o Wynedd farw tra roedd yn snorcelio yn y môr ger traeth ym Malta, wedi iddo gael ei daro gan bropelor cwch.

Bu farw Allan Stanley, 76 oed o Bwllheli ar ynys Gozo ym mis Mehefin y llynedd.

Dywedodd ei weddw Diane Stanley wrth y cwest yng Nghaernarfon fod y digwyddiad wedi digwydd mewn eiliadau. Dywedodd nad oedd "digon o amser i weiddi na gwneud dim byd".

Dywedodd y patholegydd Dr Mark Lord fod Mr Stanley wedi dioddef anafiadau i'w ben, ac fe fyddai wedi marw'n syth.

Wrth gofnodi marwolaeth ddamweiniol, dywedodd y crwner Dewi Pritchard-Jones fod Mr Stanley wedi bod yn snorcelio mewn bae pan daniodd cwch cyfagos ei injan.

"Mae'n anodd iawn gweld person sy'n snorcelio," meddai Mr Pritchard-Jones.

"Dim ond rhan uchaf pen unigolyn mae modd ei weld. Nid oes modd i mi ddweud os oedd y person yn y cwch wedi edrych neu gwneud unrhyw ymdrechion i edrych i weld os oedd unrhyw un yn y dŵr. Fe daniodd y cwch, gan droi a gyrru dros Mr Stanley.

"Achosodd y propelor anafiadau i'r pen, ac fe achosodd hyn farwolaeth Mr Stanley."