Morgannwg yn gosod her i Essex yn Chelmsford

Criced Image copyright Rex Features
Image caption Ryan ten Doeschate yn dathlu cipio wiced gan Forgannwg

Fe osododd Morgannwg her i Essex ar drydydd diwrnod eu gêm yn Chelmsford, gyda'r ymwelwyr yn gorffen ar 293 am 9 ar ddiwedd y dydd - gyda mantais o 260 o rediadau.

Yn gynharach roedd Essex i gyd allan am 319, gyda Craig Meschede (5-84) yn hawlio pum wiced yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor hwn.

Roedd Essex wedi sicrhau dyrchafiad yn barod drwy gyrraedd 250 yn eu batiad cyntaf, a hynny'n bennaf o achos 100 gan eu capten Ryan ten Doeschate, cyn iddo orffen ar 117.

Collodd Morgannwg chwe wiced am 36 o rediadau, ond roedd cyfraniadau Mark Wallace (75 heb fod allan ) a Timm van der Gugten (32) yn ddigon i wthio mantais yr ymwelwyr dros 250.