Rio 2016: Aaron Moores yn cipio'r Aur

Aaron Moores
Image caption Aaron Moores

Roedd rhagor o lwyddiant i'r Cymry yn y Gemau Paralympaidd yn Rio nos Fercher, wrth i'r nofiwr Aaron Moores ennill ras y 100m dull broga SB14.

Fe orffennodd 0.03 eiliad o flaen ei gyd-nofiwr o Brydain, Scott Quin.

Roedd Aaron, sy'n 22 oed ac sy'n byw yn Abertawe, yn un o'r ffefrynnau cyn y bencampwriaeth wedi iddo dorri'r record byd yn gynharach eleni.

Fe ddangosodd addewid yn y gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012, pan enillodd y fedal arian yn y dull cefn.

Dyma'r pumed medal i gystadleuydd o Gymru yn y gemau.