Ffordd wedi'i chau ger Y Fenni yn dilyn gwrthdrawiad

a465 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ran o'r A465 ger Y Fenni

Mae ffordd yr A465 ger Y Fenni wedi ei chau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a char.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd Blaenau'r Cymoedd am 07:45 fore ddydd Iau.

Mae'r ambiwlans awyr wedi ei alw er mwyn trin y rheiny sydd wedi anafu.

Ar hyn o bryd mae'r ffordd wedi'i chau i'r ddau gyfeiriad rhwng yr A4042, cylchfan Hardwick, a'r B4521, troad tuag at Ynysgynwraidd.

Mae'n effeithio ar draffig yn teithio rhwng Y Fenni a Henffordd.