Cymru nôl yn y 10 uchaf ar restr detholion FIFA

Bale Image copyright PA
Image caption Fe sgoriodd Gareth Bale ddwy gôl yn erbyn Moldova

Mae Cymru wedi dychwelyd i'r 10 uchaf ar restr detholion FIFA wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Moldova.

Fe gyhoeddodd FIFA eu rhestr ddiweddaraf ddydd Iau, gyda thîm Chris Coleman yn codi un safle ar ôl ennill gêm agoriadol eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018.

Y safle uchaf i Gymru fod erioed oedd wythfed, a hynny ym mis Hydref 2015.

Yn y rhestr ddiweddaraf mae Lloegr wedi codi un safle i 12fed, Gogledd Iwerddon wedi cwympo dau safle i 30ain, a'r Alban wedi codi saith safle i 44fed.

O ran y timau eraill sydd yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd Cymru, mae Awstria yn 26ain, Gweriniaeth Iwerddon yn 31ain, Serbia yn 50fed, Georgia yn 137ain a Moldova yn 161ain.

Yn y cyfamser mae UEFA wedi cyhoeddi eu bod wedi gwobrwyo cefnogwyr Cymru - yn ogystal â rhai Gwlad yr Ia, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon - am eu "cyfraniad rhagorol" yn ystod Euro 2016.