Etholiad 2020 - Ymdaith i Anoracia

Mae'n debyg eich bod yn fy nabod yn ddigon da erbyn hyn i wybod fy mod yn ddyn am etholiadau. Anghofiwch Cwpan y Byd, y Chwe Gwlad a'r Euros, rhedeg i'r cyfri nid rhedeg i Baris yw fy neleit i.

Mae'n teimlo ychydig bach fel dydd Dolig felly wrth i mi ddadlapio dadansoddiad y seffolegwyr o'r hyn a fyddai wedi digwydd yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf pe bai hwnnw wedi ei ymladd ar y ffiniau a argymhellwyd gan y Comisiwn Ffiniau'r wythnos hon.

Mae rhai o'r casgliadau ychydig bach yn annisgwyl.

Fel yr oedd pawb yn rhagweld fe fyddai'r ffiniau newydd yn rhoi tipyn o glatsied i Lafur. Yn 2015 fe fyddai'r blaid wedi ennill deunaw sedd yn lle'r pump ar hugain a sicrhawyd o dan yr hen drefn. Ond mae 'na glec i'r Torïaid hefyd. Yn hytrach na'r un ar ddeg sedd a enillwyd yn 2015 dim ond saith fyddai wedi bod yn eiddo i'r Ceidwadwyr pe bai'r etholiad wedi cael ei ymladd ar y ffiniau newydd.

Mewn gwirionedd fe fyddai 'na dipyn o fynd a dod daearyddol wedi bod rhwng y Ceidwadwyr a Llafur. Fe fyddai Llafur, er enghraifft, wedi sgubo'r Ceidwadwyr allan o Ogledd Gaerdydd ond wedi colli yn y ddwy sedd newydd sydd wedi eu cerfio allan o etholaethau Bro Morgannwg a Phen-y-bont.

O safbwynt Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai na fawr o newid. Er nad yw iaith yn un o'r ffactorau statudol y disgwylir i'r Comisiynwyr Ffiniau ystyried wrth wneud eu gwaith mae'n amlwg i mi bod hi wedi chwarae rhan yn eu penderfyniadau.

O ganlyniad mae'r seffolgwyr o'r farn y byddai Plaid Cymru wedi ennill Ynys Môn ac Arfon, Gogledd Clwyd a Gwynedd a Chaerfyrddin yn weddol ddidrafferth ac y byddai Mark Williams yn gymharol ddiogel yng Ngheredigion a Gogledd Penfro.

Mae'n bwysig cofio wrth gwrs nad proffwydoliaeth ynghylch 2020 yw'r ystadegau hyn. Dydyn nhw ddim yn cymryd i ystyriaeth effaith y newid ffiniau ar batrymau pleidleisio tactegol nac ar benderfyniadau'r pleidiau ynghylch eu targedau.

Serch hynny maent yn rhoi rhyw fath o syniad i ni lle mae'r cadfeysydd. Plus ça change, plus c'est la même chose, Gogledd Caerdydd sydd ar frig y rhestr gyda mwyafrif Llafur dychmygol o 284. Wrecsam Maelor (Llafur, 776) a Fflint a Rhuddlan (Llafur 1,280) sy'n dod nesaf.

I'r gad, bois, i'r gad!

Gallwch weld yr ystadegau'n llawn yn fan hyn.