Buddugoliaeth i Forgannwg yn erbyn Essex

Morgannwg Image copyright Rex Features
Image caption Llwyddodd Michael Hogan i sicrhau pum wiced i'r ymwelwyr

Llwyddodd Morgannwg i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Essex, pencampwyr yr Ail Adran, oddi cartref yn Chelmsford.

Dim ond 11 rhediad yn unig oedd y gwahaniaeth ar ddiwedd y chwarae ar y pedwerydd diwrnod, er i Essex frwydro'n ôl am gyfnod yn ystod bore dydd Iau.

Sgoriodd Varun Chopra 79 o rediadau i Essex cyn i'r tîm cartref gyrraedd 147-5.

264 oedd y targed i Essex, ac am gyfnod roedd rhediadau gan y ddau chwaraewr olaf David Masters a Jamie Porter yn golygu fod y clwb o drwch blewyn i gyrraedd y nod.

Ond llwyddodd Michael Hogan (5-45) a Timm van der Gugten (4-56) i fowlio'r ddau allan am 252.

Morgannwg 286 a 296: Wallace 78, Rudolph 56, Bragg 54; Ten Doeschate 2-20

Essex 319 a 252: Chopra 79; Hogan 5-45, Van der Gugten 4-56