Murlun Y Gwyll ar ochr adeilad yn Aberystwyth?

Y Gwyll Image copyright Cyngor Ceredigion
Image caption Darlun o'r murlun arfaethedig ar ochr siop gelf Millwards' ar Stryd y Pier

Mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Ceredigion i roi darlun o ddrama Y Gwyll ar ochr adeilad yn Aberystwyth.

Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai'r murlun yn cael ei baentio ar ochr siop gelf Millwards' ar Heol y Wig.

Byddai'n dangos Richard Harrington, sy'n chwarae'r brif rol o DCI Tom Mathias yn y gyfres.

Mae'r ddrama ddwyieithog, sydd bellach wedi cael ei gwerthu i'r Unol Dalethiau, yn cael ei ffilmio yn yr ardal.