Hedfan paragleidiwr i'r ysbyty ar ôl plymio i'r ddaear

Hofrennydd Image copyright Tîm Achub Mynydd Aberhonddu

Mae paragleidiwr wedi cael ei hedfan i'r ysbyty ar ôl plymio i'r ddaear ym Mannau Brycheiniog.

Fe wnaeth y dyn yn ei 50au daro'r llawr ar Gorn Du, ger Pen y Fan, tua 15:20 ddydd Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac fe gafodd ei drin am anafiadau i'w asgwrn cefn a'i belfis.

Fe gafodd ei hedfan mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ond does dim gwybodaeth eto am ei gyflwr.

Image copyright Tîm Achub Mynydd Aberhonddu